Traeth Bae Pobbles
Mae traeth Bae Pobbles yn fae poblogaidd wedi’i amgylchynu gan glogwyni – cerddwch lan i’r top a mwynhewch y golygfeydd godidog (mae’n wych ar gyfer y rheini sy’n dwlu ar antur!).
Sut i gyrraedd yno
Gellir ei gyrraedd ar gludiant cyhoeddus (SA3 2HB).
Does dim cyfleusterau parcio oherwydd y lleoliad. Gallwch gerdded i draeth Pobbles o draeth Bae y Tri Chlogwyn ar adeg trai neu cerddwch i lawr o’r clogwyni.
Cyfleusterau
Maes Parcio: Na.
Toiledau: Na.
Lluniaeth: Na.
Cludiant cyhoeddus: Oes. Mae cludiant cyhoeddus ar gael ychydig bellter i ffwrdd (tua 400m). Gall y pellter rhwng y safle bws a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.
Cŵn: Caniateir cŵn ar y traeth drwy gydol y flwyddyn.
Mynediad i gadeiriau olwyn: Na.
Achubwyr Bywydau: Na.
Arhoswch yn ddiogel!
Does dim achubwyr bywydau ac mae cerrynt terfol cryf felly byddwch yn ofalus. Mae’r darn rhwng Pobbles a Bae y Tri Chlogwyn ond yn hygyrch pan fydd y llanw ar drai.
Archwiliwch ragor
Traethau
Mae ein harweiniad i draethau ym Mae Abertawe'n un cynhwysfawr i'r holl draethau hyfryd sydd…
Llwybr Arfordir Gŵyr
Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn cynnwys holl amrywiaeth ein harfordir hyfryd.
Bod yn Gyfrifol
Fel cyrchfan cyfrifol, mae Bae Abertawe am gefnogi diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr â’r…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch…