Ychwanegwch eich digwyddiad

Ni yw cartref digwyddiadau yn Abertawe a gallwch ychwanegu eich digwyddiad at ein rhestrau am ddim - dyma gyfle gwych i gyflwyno eich digwyddiad i filoedd o ymwelwyr yn ddyddiol.

Caiff pob digwyddiad ei wirio cyn cael ei gymeradwyo a'i gyhoeddi, ac efallai caiff ei olygu ychydig i gyd-fynd ag arddull y wefan. Rydym yn ceisio cyhoeddi digwyddiadau cymeradwy o fewn 72 awr.

Darllenwch y nodiadau canlynol cyn cyflwyno'ch digwyddiad:

  • Mae gan dîm croesobaeabertawe.com yr hawl i benderfynu a yw'r digwyddiad yn addas ar gyfer y wefan. Os ydym yn teimlo nad yw eich digwyddiad yn addas neu'n berthnasol, ni fydd yn cael ei ychwanegu.
  • Mae'n rhaid i ddelweddau fod ar ffurf tirlun ac ni chaniateir iddynt fod yn fwy na 1mb. Dim posteri. Os na fyddwch yn cydymffurfio â'r canllawiau hyn efallai na fydd eich digwyddiad yn cael ei gymeradwyo neu efallai byddwn yn defnyddio rhywbeth priodol yn lle eich delwedd chi.
  • Mae'n rhaid i ddigwyddiadau gael eu cynnal mewn lleoliad yn Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr. Os ydych chi'n cael trafferth wrth gyflwyno'ch digwyddiad, e-bostiwch ni yn Tim.Twristiaeth@abertawe.gov.uk.
  • Dylech gynnwys cyfeiriad e-bost cyhoeddus neu rif ffôn os ydych chi'n hapus i'r cyhoedd cysylltu â chi - fel arall defnyddiwch fanylion cyswllt sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe!