Taith Fer Treforys
Cyrraedd
Mae Treforys yn nwyrain Abertawe, ychydig oddi ar gyffordd 45 yr M4. Mae gwasanaethau bysus yn rhedeg yn rheolaidd o ganol y ddinas i Dreforys gan gynnwys rhif 4, 26 ac x6. Y llwybr beicio cenedlaethol agosaf yw NCN 43.
Wyddech chi?
Treforys oedd yr anheddiad diwydiannol cynlluniedig cyntaf yng Nghymru. Mae ganddi hanes cyfoethog a stryd fawr draddodiadol â siopau annibynnol ac adeiladau treftadaeth ar ei hyd. Crëwyd y dref gan y diwydiannwr arloesol o Abertawe, Robert Morris, ac fe'i cynlluniwyd yn y 1780au i ddenu a chartrefu gweithwyr yn niwydiant mwyndoddi copr ehangol Cwm Tawe isaf, un o darddleoedd y chwyldro diwydiannol.
Roedd Treforys ar un adeg wrth wraidd arloesedd mewn gwydr lliw ac yn fan geni'r bartneriaeth (Martin & Thomas) a arweiniodd at Celtic Studios (sydd bellach wedi cau), cwmni gwydr lliw mawr cyntaf Cymru a gynhyrchai waith ar gyfer eglwysi yng Nghymru, Lloegr a thramor.
Mae Treforys yn gartref i un o gorau meibion mwyaf adnabyddus Cymru - Côr Orffews Treforys.
Treftadaeth
Mae nifer o adeiladau treftadaeth i'w gweld yn Nhreforys gan gynnwys:
Capel y Tabernacl
Cadeirlan Anghydffurfiaeth" - campwaith rhestredig Gradd I ac un o adeiladau capel mwyaf arwyddocaol Cymru. Gellir gweld ei dŵr cloc dramatig ar draws yr ardal ac mae'n adeilad y mae'n rhaid ei weld os ydych yn mwynhau pensaernïaeth neu hanes lleol.
Eglwys Sant Ioan
Mae'r tirnod poblogaidd, sef yr 'eglwys yng nghanol y ffordd' fel y'i gelwir yn aml, wedi'i adnewyddu ac yn cael ei ddefnyddio unwaith eto fel siop goffi.
Rhif 91 Woodfield Street
Dyma'r adeilad hynaf ar y stryd, sy'n dyddio'n ôl i'r 1780au. Bwthyn gweithiwr ydoedd yn wreiddiol, o gyfnod diwydiannol cynnar Treforys.
Bwyd a diod
Mae Treforys yn cynnig profiad siopa traddodiadol gyda siop gig, siopau bara, siopau blodau, siopau gemwaith, salonau harddwch a hyd yn oed siop ddartiau, yn ogystal â llawer o opsiynau bwyd a diod gan gynnwys Bite and Go, sy'n cynnig bwyd Eidalaidd go iawn.
Parciau
Mae tro 10 munud (i fyny'r tyle) o Woodfield Street yn eich arwain i Barc Treforys a agorodd i'r cyhoedd ym 1912. Mae'n barc â phob cymhwyster, gyda llwybrau, ardaloedd chwarae, pwll hwyaid, cyfleusterau BMX/sglefrio a mannau gwyrdd agored yn ogystal â'i lwybr treftadaeth ei hun sydd ar gael o ap Llwybrau Tawe (am ddim).
Parc Llewelyn - mae'r parc hwn, un o'r prif barciau cyhoeddus Fictoraidd cyntaf yn Abertawe, filltir i ffwrdd ar droed/yn daith fer mewn car i'w gyrraedd. Mae'r parc ar gofrestr o dirweddau o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru gwasanaeth CADW. Gallwch ddod o hyd i'ch ffordd o amgylch treftadaeth y parc hwn gyda chymorth ap Llwybrau Tawe, lle byddwch hefyd yn dod o hyd i lwybr i ddarganfod y math o siopau a gafwyd ar hyd Woodfield Street flynyddoedd lawer yn ôl.
Peidiwch â cholli...
-
Diwrnod Fictoraidd Treforys a gynhelir ddiwedd mis Tachwedd i ddathlu hanes Cwm Tawe Isaf. Cadwch lygad ar ein hadran Digwyddiadau ar gyfer dyddiadau eleni.