Beicio
Paratowch i fynd ar eich beic. Mae gan Fae Abertawe ddigon o lwybrau beicio heb draffig ac mae’n rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a’r Llwybr Celtaidd. Ymlaciwch gyda thaith feicio ar hyd y prom, ac os oes yn well gennych rhywbeth sy’n llawn adrenalin – ewch tua’r bryniau! Mae gan Gwm Afan a Chwm Nedd enw byd-eang am feicio mynydd. Mae llwybrau sy’n addas i bawb. Gall teuluoedd a’r rhai sy’n newydd i feicio fynd ar y llwybrau gwyrdd, maent yn dal i fod yn heriol – ac mae’r golygfeydd yn ddigon i gipio’ch anadl (yn hytrach na’r daith feicio). Neu Rhwydwaith Beicio Oddi ar y Ffordd Gŵyr.
Beic? Oes! Helmed? Oes! Ewch ar eich beic am daith 5 milltir ar hyd promenâd Bae Abertawe. Beth am feicio o ganol y ddinas i’r Mwmbwls a chael hufen iâ wedi i chi gyrraedd. Maent yn dweud ei fod ymysg y gorau yn y byd. Mae beicio ar hyd y bae’n weithgaredd gwych ar gyfer diwrnod o haf gyda nifer o gaffis yn edrych dros y môr!
Gallwch hefyd feicio ar rai ffyrdd tawelach ar lwybr beicio gogledd Gŵyr. Edrychwch ar y golygfeydd godidog (cofiwch eich camera!) Am feicio hamddenol, heb draffig, mae Taith y Tawe’n ddelfrydol. Mae ychydig dros 6 milltir ac mae’n llwybr gwych i deuluoedd. Os hoffech fynd am dro ar hyd y traeth, yna Ger y Môr yw’r llwybr i chi. Mae’n gorffen yn y Mwmbwls lle gallwch fynd i’r dŵr i oeri, neu efallai fwyta rhywbeth melys? Dyma daith hamddenol, ond mae’n gyfanswm o 10 milltir. Mae’n werth yr ymdrech.
Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Mae gan Abertawe rai o lwybrau beicio mwyaf golygfaol a phleserus Cymru, sy'n berffaith ar gyfer beicwyr hamddenol a brwd.
Er bod Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn dechrau ym Mhontypridd, yr uchafbwynt yw'r rhan ohono sydd yn Abertawe. Mae'r llwybr yn dilyn Bae Abertawe a gallwch weld Dyfnaint ar ddiwrnod clir! Mae'r rhan hon o'r llwybr yn arbennig o hygyrch ac yn wych i deuluoedd.
Mae'r llwybr yn rhedeg ar hyd Prom Abertawe gyda'r traeth wrth ei ochr, ac mae'n mynd i Barc Gwledig Dyffryn Clun lle mae'n dilyn hen linellau rheilffordd i'ch tywys i Foryd Llwchwr ac i Sir Gâr.
Mae Llwybr 43 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn dilyn afon Tawe o ganol y ddinas hyd at bentref gwledig Aber-craf. Mae'r llwybr yn defnyddio llwybrau camlas a gweddillion gorffennol diwydiannol, ac mae hanes cyfoethog yr ardal yn ychwanegu haen o ddiddordeb at eich taith.
Byddwch yn mynd trwy safle Gwaith Copr yr Hafod sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar yn ogystal â pharc deiliog Coed Gwilym gyda Chamlas Abertawe ar un ochr o'r llwybr ac afon Tawe ar y llall. Cadwch lygad am yr hwyaid! Mae'r llwybr hwn yn cynnig cymysgedd o harddwch naturiol a thawelwch, sy'n golygu ei fod yn ddihangfa ddelfrydol rhag cyffro bywyd y ddinas.
Mae'r llwybrau sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n dda'n golygu bod y daith yn bleserus ac mae caffis, tafarndai a mannau gorffwys ar hyd pob llwybr, sy'n eich galluogi i gymryd seibiant a mwynhau eich amgylchedd a pheth lluniaeth haeddiannol!
Yn galw ar y rhai sy’n hoff o adrenalin! Dewch i feistroli llwybrau troellog, creigiog a gwyllt Parc Coedwig Afan. Dewiswyd y llwybrau ymysg y ’10 lle gorau yn y byd i feicio’ gan gylchgrawn Mountain Bike, mae’r lle hwn yn un y mae’n rhaid i chi ymweld ag ef! Mae gan Barc Coedwig Afan dros 100km o lwybrau disgyn, sengl, heriol, ardaloedd dringo heriol a golygfeydd trawiadol dros Gymoedd De Cymru. Gallwch hurio’r holl gyfarpar yn y ganolfan ymwelwyr, felly ‘sdim esgus -bant â chi!
Rhwydwaith Beicio Oddi ar y Ffordd Gŵyr
Ffordd newydd o ddarganfod Gŵyr! Dewch i gael ymarfer corff gwych, mwynhau’r awyr iach a gweld arfordir a chefn gwlad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU ar yr un pryd!
Mae 27km o lwybrau i’w harchwilio sy’n dilyn llwybrau ceffyl hynafol gyda thri bryn i’w dringo yng Ngŵyr, Twyni Rhosili, Twyn Hardings a Bryn Llanmadog – allwch chi ddringo pob un?
Mae’r llwybr oddi ar y ffordd yn cynnig traciau pridd yn bennaf gyda rhai arwynebau metlin ond anwastad – bydd yr amodau’n amrywio yn dibynnu ar y tymor a’r tywydd – felly cofiwch fynd â’r beic, yr offer a’r dillad cywir ar gyfer yr amodau.
Mae’r rhwydwaith yn llwybr a rennir ac mae’n bosib y bydd beicwyr yn dod ar draws cerddwyr a marchogion – sylwer bod y gyfraith yn nodi bod yn rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogion ar lwybrau ceffylau. Yn ffodus, mae digon o benrhyn Gŵyr i bawb!
Lawrlwythwch ein taflen sy’n cynnig cyngor ac awgrymiadau gwych ar gyfer beicio ar lwybrau ceffyl yn ogystal â map i’ch helpu i drefnu’ch llwybr yn ddiogel.
Ydych chi’n barod am antur oddi ar y ffordd?
Mae Abertawe yn ddinas sy’n croesawu beiciau. Mae rheslau beiciau diogel ar gael ar draws y ddinas ac mae gan lawer o westai a gwelyau a brecwast wobrau ‘Croesawu Beiciwyr’.