Antur Tri Diwrnod Hwyl Bae Abertawe
Antur Tri Diwrnod ym Mae Abertawe
Diwrnod 1
- Cadwch eich lle am arhosiad yn Nhŷ Bynciau Hardingsdown, sy’n cynnig llety cyfforddus a fforddiadwy i unigolion, teuluoedd a grwpiau ar fferm organig weithredol yng nghanol penrhyn Gŵyr.
- 10am:Dewch i Siop Goffi Bae’r Tri Chlogwyn i gael cappuccino (neu baned!) a theisen gartref flasus.
- Treuliwch y diwrnod yn dringo creigiau ac yn abseilio yn lleoliad arobryn Bae’r Tri Chlogwyn gyda’r tîm yn Gower Adventures. Golygfeydd trawiadol a hwyl benigamp. Cofiwch ddod â’ch potel o ddŵr a’ch pecyn cinio!
- 30pm: Dewch yn ôl am hufen iâ yn Siop Goffi Bae’r Tri Chlogwyn
- Dychwelwch i Dŷ Bynciau Hardingsdown i gael cawod a newid eich dillad.
- Gallwch fynd am dro am 20 munud gyda’r hwyr heibio’r bryngaerydd o Oes yr Haearn i’r Kings Head inn at Llangennith, yn Llangynydd, sy’n dafarn pedair seren o’r 17eg ganrif lle gallwch fwynhau pryd blasus gyda’r hwyr (gallwch ddewis o lawer o brydau cartref wedi’u gwneud o gynnyrch Cymreig!).
- Ewch yn ôl i Dŷ Bynciau Hardingsdown am arhosiad dros nos.
Diwrnod 2
- Cadwch eich lle am arhosiad dros nos yng Ngwesty The Oxwich Bay, sy’n dafliad carreg i ffwrdd o harddwch Bae Oxwich.
- Ar ôl brecwast, gallwch fynd i gaban chwaraeon dŵr ym Mae Oxwich am sesiwn gaiacio gydag Oxwich Watersports. Dewch â phâr o drenyrs a siorts i’w gwisgo ar ben eich siwt ddŵr. Cofiwch gael hwyl!
- 12pm: Mwynhewch ginio neu de prynhawn yng Ngwesty The Oxwich Bay
- Ewch am dro ym Mae Oxwich. Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am lwybr cerdded Trwyn Oxwich yma.
- Dewch i ymweld â Chastell Oxwich, tŷ Tuduraidd crand wedi’i adeiladu ar ffurf iard sydd wedi goruchwylio pentref Oxwich ers cyfnod y Tuduriaid.
- Mwynhewch eich pryd gyda’r hwyr yn y Beach House, Oxwich. SWedi’i osod mewn lleoliad arfordirol hardd ym Mae Oxwich, mae’r Beach House yn defnyddio cynnyrch lleol gwych, gan gynnwys gwymon Bae Oxwich.
Diwrnod 3
- Cadwch eich lle am arhosiad dros nos yn Worm’s Head Hotel, sy’n edrych dros fae arobryn Rhosili (dyma’r trydydd traeth gorau yn y DU ar hyn o bryd – yn ôl defnyddwyr Trip Advisor).
- Dewch i arfordiro gyda Rip n Rock yn Rhosili – bydd e’n ddiwrnod hwyl o antur llawn adrenalin yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.
- Dewch i gael cinio ym Mwyty Helvetia The Worm’s Head Hotel a mwynhau golygfeydd trawiadol o leoliad byd-enwog Pen Pyrod a hyfrydwch mawreddog Bae Rhosili.
- Mwynhewch daith gerdded gylchol 2 filltir o gwmpas Rhosili a Phen Pyrod, lle gallwch gerdded hyd at Wylfa Gwylwyr y Glannau
- Mwynhewch bryd gyda’r hwyr yn y Kings Head Inn, tafarn pedair seren o’r 17eg ganrif ym mhentref arfordirol Llangynydd. Mae tafarn y King’s Head wedi’i lleoli gyferbyn â’r eglwys fwyaf ym mhenrhyn Gŵyr ac mae mynediad hwylus i draeth Llangynydd lle mae’r tywod yn estyn i Rosili, bron pedair milltir i ffwrdd. Yn y bar traddodiadol sy’n llawn cymeriad gyda’i drawstiau a’i waliau cerrig datgeledig, mae amrywiaeth anhygoel o fwyd yn cael ei weini, ac mae llawer ohono’n cael ei baratoi ar y safle ac yn gynnyrch Cymreig ffres.
Cymerwch gip ar ein teithiau byr eraill
Teithiau Byr Diwylliannol Abertawe
Antur Ddiwylliannol yn Abertawe
Taith Fer y Mwmbwls
Ymwelwch phentref cartrefol ond cosmopolitaidd y Mwmbwls. Yn llawn cymeriad lleol a swyn, mae’r Mwmbwls yn gartref i grefftau a wnaed â llaw, bwtigau moethus a hufen iâ gorau’r…
Taith Fer Oxwich
Antur Forol Oxwich: Dewch i reidio, bwyta a phadlo bwrdd ar eich traed!
Taith Fer y Tri Chlogwyn
Antur Ddringo ym Mae’r Tri Chlogwyn
Taith Fer Abertawe Wledig
Darganfyddwch Abertawe Wledig yn ystod Seibiant Byr