Natur a Bywyd Gwyllt yn Abertawe Wledig
Coed Cwm Penllergaer
Mae Coed Cwm Penllergaer (SA4 9GS) yn dyddio’n ôl ychydig gannoedd o flynyddoedd, ac yn wreiddiol roedd yn ystâd fawr a oedd yn eiddo i deulu Dillwyn Llewellyn a oedd â diddordeb brwd mewn garddwriaeth a natur. Heddiw mae’n cynnwys 250 erw o goetir a rhostir gyda dau lyn a rhaeadr ddarluniadwy.
Mae’r ardal yn cynnwys sawl math gwahanol o gynefinoedd gan gynnwys coetir hynafol, coetir gwlyb a dŵr croyw agored. Gwelwyd dyfrgwn, llygod dŵr a’r Llysywen Ewropeaidd yn y llynnoedd. Uwchben y ddaear, efallai y gwelwch leision y dorlan, trochwyr, teloriaid yr helyg ac ystlumod. Mae blodau fel clychau’r gog a’r rhododendron yn ffynnu ochr yn ochr â thros 30 o wahanol rywogaethau o ffwng a choed traddodiadol fel derw, cyll a helyg.
Dyffryn Lliw
Mae Dyffryn Lliw ( SA5 7NP) i’r gogledd o Abertawe yn adnabyddus am ei dirwedd sydd heb ei ddifetha a’i gronfa ddŵr.
Mae’r ardal yn cynnwys cronfa ddŵr isaf ac uchaf ac mae’n Safle o Bwys Cadwraeth Natur sy’n cynnal ffawna a chynefinoedd prin ac amrywiol gan gynnwys rhedyn a glaswelltir asid.
Gall gwylwyr adar fwynhau hebogau tramor, cudyllod coch, cigfrain, barcutiaid coch, gylfinirod, corhedyddion y waun ac ehedyddion ac mae amrywiaeth o bysgod yn byw yn y cronfeydd dŵr, a’r mwyaf cyffredin yw’r brithyll.
Saffari’r Gwanwyn ym Mae Abertawe gyda Iolo Williams - Abertawe Wledig
Ydych chi'n cynllunio'ch taith?
Teithio Hwnt ac Yma
Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a…
Bod yn Gyfrifol
Fel cyrchfan cyfrifol, mae Bae Abertawe am gefnogi diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr â’r…
Gweithgareddau
Mae lleoliad Bae Abertawe a Gŵyr yn golygu bod gennym lwyth o opsiynau gweithgareddau ar gael…
Ysbrydoliaeth
Ydych chi'n trefnu eich gwyliau nesaf? Does dim angen edrych ymhellach am lwybrau cerdded gwych…
Gŵyr
Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe'i…
Natur a Bywyd Gwyllt ym Mae Abertawe
Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad…
Beicio
Paratowch i fynd ar eich beic. Mae gan Fae Abertawe ddigon o lwybrau beicio heb draffig ac…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch…
Archwiliwch ragor
Natur a Bywyd Gwyllt
Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad daearyddol yn cwmpasu’r arfordir a chefn gwlad, o fewn hanner awr gallwch fynd o nofio yn y môr gyda gwymon yn gogleisio’ch traed i sefyll ar ben mynydd gyda boncathod a barcutiaid…