Ymddiriedolaeth Genedlaethol Rhosili
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am fwy na 26 milltir o arfordir poblogaidd penrhyn Gŵyr. Mae hyn yn cynnwys rhan helaeth o’r ardal o amgylch Rhosili, y traeth arobryn, Pen Pyrod a Mynydd Rhosili.
Mae’r maes parcio mawr a oruchwylir ar agor drwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnig parcio am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (sganiwch eich cerdyn aelodaeth). Codir tâl 24 awr y dydd ar gyfer ymwelwyr nad ydynt yn aelodau. Mae siop Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar agor yn ddyddiol rhwng 10am a 4pm.
Sut i gyrraedd yno
Gellir ei gyrraedd mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA3 1PR).
Ewch am dro ar hyd y llwybr cymharol wastad tuag at y Ganolfan Gwylio a mwynhewch y golygfeydd ar draws y bae a thuag at Ben Pyrod.
Cyfleusterau
Maes Parcio: Oes, a gynhelir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma: www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/rhosili-ac-arfordir-de-gyr
Toiledau: Toiled cyhoeddus 24 awr gyda RADAR Ystafell newid babanod neillryw a chawod awyr agored.
Lluniaeth: Mae sawl man gwerthu bwyd yn y pentref – cymerwch gip ar ein tudalennau lleoedd i fwyta.
Cludiant cyhoeddus: Oes, gall y pellter rhwng y safle bws a’r llwybr gynnwys tir garw.
Cŵn: Caniateir cŵn ond byddwch yn ymwybodol o’r da byw rhydd ac ymyl y clogwyn.
Mynediad i gadeiriau olwyn: Mae llwybr gwastad ond tir garw.
Achubwyr Bywydau: Nac oes.


Arhoswch yn ddiogel!
Os byddwch yn mynd i Ben Pyrod, gwiriwch amserau’r llanw ac ewch i’r Ganolfan Gwylio. Peidiwch â chrwydro’n rhy bell oddi ar y prif lwybr ar hyd y pentir; mae’r clogwyni’n serth iawn!
Archwiliwch ragor
Traethau
Mae ein harweiniad i draethau ym Mae Abertawe'n un cynhwysfawr i'r holl draethau hyfryd sydd…
Rhosili i Fae Mewslade
Taith gerdded gylchol, olygfaol, ar ymyl orllewinol penrhyn Gŵyr.
Rhosili i Ben-maen - Llwybr Gŵyr (y rhan ddeheuol)
Dewch i ddarganfod penrhyn trawiadol Gŵyr wrth i chi gerdded o Rosili i Benmaen ar hyd rhan ddeheuol…
Abertawe i Rosili
Gwneud yn Fawr o Lwybr yr Arfordir – O Abertawe i Rosili.
Traeth Bae Rhosili
Mae Bae Rhosili bob tro’n cael ei gynnwys yn rhestr 10 traeth gorau Cymru ac fe’i…
Llwybr Arfordir Gŵyr
Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn cynnwys holl amrywiaeth ein harfordir hyfryd.
Bod yn Gyfrifol
Fel cyrchfan cyfrifol, mae Bae Abertawe am gefnogi diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr â’r…
Pethau i’w Dwneud yn yr Awyr Agored
Rydym yn cynnig mwy na syrffio, padlo bwrdd ar eich traed, arfordiro a chaiacio yn unig ym Mae…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch…