Prifysgolion

Mae dwy brifysgol yn Abertawe - Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS). Gyda champysau a llety yn y ddinas ac wrth ymyl y bae, dyma’r lleoliad perffaith i chi astudio.  

Ydych chi'n ystyried mynd i'r brifysgol yn Abertawe? Gyda'n bywyd nos gwych, ein dewisiadau bwyd a diod ardderchog, ein traethau a'n morlin sydd o fewn pellter cerdded i ganol y ddinas, ein hamgueddfeydd a’n horielau a rhaglen digwyddiadau anhygoel bob blwyddyn, mae digonedd o resymau gwych dros astudio yn Abertawe.  

Ydych chi'n teithio i Abertawe ym mis Medi i helpu'ch plentyn i symud i mewn i'w lety newydd? Cymerwch gip ar ein hadran lleoedd i aros a'n hadran ysbrydoliaeth i gynllunio'ch ymweliad, a chofiwch am ein hadran bwyd a diod lle gallwch ddod o hyd i restr o leoedd i fwyta ar ôl diwrnod prysur yn dadbacio.  

Mae Arena Abertawe a Neuadd Brangwyn hefyd yn cynnal y seremonïau graddio bob blwyddyn. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y ddau leoliad syfrdanol hyn yma, ac os oes awydd gennych gael siampên neu rywbeth i'w fwyta er mwyn dathlu, cymerwch gip ar ein hadran bwyd a diod.  

Photo of Swansea University Singleton Campus from the air with the bay
Ffoto: Prifysgol Abertawe

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Ydych chi’n trefnu taith ond heb wybod sut i ddod o hyd i ni? Neu efallai eich bod chi am lawrlwytho arweiniad neu mae angen gwybodaeth am hygyrchedd arnoch chi. Cewch hynny a mwy yn y ddewislen ar y chwith.