Natur a Bywyd Gwyllt ym Mhenrhyn Gŵyr
Gwnaed Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain dros 60 mlynedd yn ôl, ac mae hyn wedi caniatáu i’r ardal gynnal lefel isel o aflonyddwch gan ddyn, gan arwain at ardaloedd bridio diogel, sefydledig ac ardaloedd eang o dir comin a chlogwyni heb eu cyffwrdd lle gall planhigion prin ffynnu.
Mae gan y penrhyn 39 milltir o arfordir, felly mae bywyd môr yn elfen allweddol o fyd naturiol yr ardal. Uwchben dŵr gallwch weld dolffiniaid a morloi a cheir byd o bysgod, cramenogion a molysgiaid o dan y dŵr. Mae ystod eang o adar môr fel gweilch y penwaig a phïod y môr yn byw yn yr ardal yn ogystal ag adar ysglyfaethus fel hebogau tramor a bodau tinwyn.
Cefn Bryn
Cefn Bryn (Abertawe SA3 1AE) yw’r ail bwynt uchaf ar Benrhyn Gŵyr. Mae’r gefnen a ffurfiwyd yn naturiol yn eistedd yng nghanol y penrhyn ac yn ymestyn dros 5 milltir gyda golygfeydd pellgyrhaeddol. Mae’r rhan fwyaf o’r gefnen yn dir comin ac yn gartref i dda byw sy’n pori; mae hyn yn cadw’r glaswellt a’r eithin draw ac yn helpu i feithrin amrywiaeth eang o gynefinoedd lle gall rhywogaethau a warchodir a rhywogaethau prin fel yr ehedydd, yr ysgyfarnog frown ac iâr fach yr haf britheg y gors ffynnu.
Mae Pwll Llydan yn eistedd ger gwaelod Cefn Bryn, mae’n bwll dŵr croyw mawr ac yn warchodfa natur warchodedig. Mae’n gartref i lawer o blanhigion, creaduriaid amffibiaidd a phryfed fel gweision y neidr ac yn fan poblogaidd i adar gan gynnwys giachod a chrehyrod.
![The Gower Way stone in Cefn Brn](https://assets.simpleviewinc.com/simpleview/image/upload/c_fill,f_jpg,h_640,q_65,w_640/v1/clients/swansea/Cefn_Bryn_736905ea-3a7b-4bc9-91e5-b81916a3c0ed.jpg)
Maen Ceti
Mae’r comin yn gartref i un o dirnodau enwog Gŵyr, Maen Ceti, heneb gladdu Neolithig. Mae dwy Heneb Gofrestredig arall ar y comin: beddrod crwn Pen y Crug a Charnedd Gron.
Gan fod Cefn Bryn mor fawr, gallwch ei gyrraedd drwy bentrefi cyfagos fel Cilibion, Reynoldston a Phenmaen. Dyma’r lle gorau ar gyfer parcio hefyd. Mae lle i dynnu i mewn ger Maen Ceti ond weithiau mae hyn yn anhygyrch at ddibenion cadwraeth tir.
![Arthur's Stone](https://assets.simpleviewinc.com/simpleview/image/upload/c_fill,f_jpg,h_640,q_65,w_640/v1/clients/swansea/Arthurs_Stone_393A0998_240b91e2-4de8-44ce-b10d-e6673ddfcc41.jpg)
Oxwich Bay
Mae Bae Oxwich (SA3 1LS) yn ehangder 2.5 milltir o arfordir yn ne Gŵyr, gyda dau bentir ar bob ochr iddo. Saif y traeth ochr yn ochr â gwlyptiroedd a choedwig Gwarchodfa Natur Oxwich sy’n darparu amrywiaeth cyfoethog o gynefinoedd ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt
Oherwydd yr amgylchedd sialc yn y twyni, fe welwch flodau gwyllt anghyffredin fel tegeirianau. Mae pryfed yn ffynnu yn y llynnoedd dŵr croyw, maent yn eu tro yn denu ystlumod sy’n clwydo gerllaw.
Ar y ffordd allan o Oxwich yn Whitestones, gall gwylwyr adar ddefnyddio cuddfan ar y gors. Mae llwybr pren yn arwain ato. Gellir gweld teloriaid, ieir dŵr, gwyachod bach ac adar dŵr yno.
![Oxwich Bay](https://assets.simpleviewinc.com/simpleview/image/upload/c_fill,f_jpg,h_640,q_65,w_640/v1/clients/swansea/Oxwich_Bay_beach_393A3457_bc91687c-7cb2-46fd-a2c2-5e0e06616751.jpg)
Ydych chi'n cynllunio'ch taith?
Teithio Hwnt ac Yma
Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a…
Bod yn Gyfrifol
Fel cyrchfan cyfrifol, mae Bae Abertawe am gefnogi diogelwch preswylwyr ac ymwelwyr â’r…
Gweithgareddau
Mae lleoliad Bae Abertawe a Gŵyr yn golygu bod gennym lwyth o opsiynau gweithgareddau ar gael…
Ysbrydoliaeth
Ydych chi'n trefnu eich gwyliau nesaf? Does dim angen edrych ymhellach am lwybrau cerdded gwych…
Gŵyr
Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe'i…
Natur a Bywyd Gwyllt ym Mae Abertawe
Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad…
Beicio
Paratowch i fynd ar eich beic. Mae gan Fae Abertawe ddigon o lwybrau beicio heb draffig ac…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch…
Archwiliwch ragor
Natur a Bywyd Gwyllt
Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad daearyddol yn cwmpasu’r arfordir a chefn gwlad, o fewn hanner awr gallwch fynd o nofio yn y môr gyda gwymon yn gogleisio’ch traed i sefyll ar ben mynydd gyda boncathod a barcutiaid…