Digwyddiadau Tymhorol

Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus. Gadewch i ni liniaru'r pwysau o gynllunio eich taith gyda'n harweiniad defnyddiol ynghylch yr hyn sydd yn yr arfaeth ym mhob tymor ym Mae Abertawe.  

Yn ystod y gwanwyn, byddwch yn dod o hyd i wyliau bwyd, sioeau cerdd byw a'n Gŵyl Croeso ein hunain i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Ac wrth i'r diwrnodau fynd yn hwy ac yn fwy braf, nid oes amser gwell i fynd allan i'r awyr agored ac archwilio ein morlin a'n llwybrau cerdded anhygoel.  

Yn ystod yr haf, rhaid ymweld â'n traethau anhygoel, yn ogystal ag Atyniadau Awyr Agored Abertawe, a chofiwch wylio sioe yn ein Theatr Awyr Agored yng Nghastell Ystumllwynarth. Cynhelir rhai digwyddiadau byw anhygoel yn ystod yr haf hefyd, gan gynnwys y Sioe Awyr flynyddol, Ironman 70.3 Abertawe a chyngherddau ym Mharc Singleton.  

Yn ystod yr hydref, gallwch herio eich hun yn Ras 10k Bae Abertawe neu ymlacio yn yr haul yn un o'r bwytai a'r caffis niferus sydd ar gael, a chofiwch weld machlud yr haul yn lleoliadau anhygoel Bae Rhosili a Phen Pyrod. Daw'r ysbrydion a'r bwganod allan bob Calan Gaeaf hefyd, a bydd digon i gadw eich rhai bach yn hapus, o gastell aflonydd i drenau bwganod!  

Yn ystod y gaeaf, cadwch yn gynnes wrth i dymor yr ŵyl ddechrau yn Abertawe. Gallwch gael diod i'ch cynhesu ar ôl diwrnod hir yn archwilio'r ddinas a'r golygfeydd, galw heibio i Farchnad y Nadolig i ddod o hyd i'r anrheg berffaith honno, neu fwynhau noson hudolus yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau. Ac ni allwn anghofio Gorymdaith y Nadolig Abertawe, sy’n ddigwyddiad anhygoel!  

Ni waeth beth fo'r tymor, bydd bob amser rywbeth i'w wneud ym Mae Abertawe – darllenwch fwy i archwilio ymhellach.