Croeso Abertawe mewn cydweithrediad â Shirgar

Cynhaliwyd gŵyl Croeso ar 28 Chwefror ac 1 Mawrth 2026

Shirgar

 

 

Croeso x Nightworks

Croeso x Nightworks - rhaglen fywiog o gigs dwyieithog, mynediad am ddim ar draws lleoliadau llawr gwlad y ddinas dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi. 

Swansea Council logo

 

Croeso Abertawe mewn cydweithrediad â Shirgar

Shirgar

Mae Menyn Cymreig Shirgar yn falch iawn o gefnogi digwyddiad Croeso Cyngor Abertawe, a gynhelir yn ystod penwythnos Dydd Gŵyl Dewi. Mae'r digwyddiad yn dathlu hunaniaeth Gymreig, arweinyddiaeth ddinesig a chydweithio, felly mae'n berffaith ar gyfer brand Shirgar.

Ar gyfer Menyn Shirgar, mae'r cydweithrediad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad cryf i gymuned, dilysrwydd a balchder yng Nghymru. Fel brand Cymreig balch, mae Menyn Shirgar yn gwerthfawrogi cyfleoedd sy'n dod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i rannu syniadau, cryfhau cysylltiadau a dathlu lle. Mae cynnal y digwyddiad yn ystod penwythnos Dydd Gŵyl Dewi yn rhoi ystyr arbennig iddo, gan gysylltu llywodraethu modern â chyfnod o ddathlu cenedlaethol a hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae cefnogi digwyddiad Croeso yn atgyfnerthu rôl Menyn Shirgar fel brand sy'n hyrwyddo treftadaeth leol, ymgysylltu cadarnhaol a chroeso cynnes. Mae Menyn Shirgar yn falch o fod yn gysylltiedig â digwyddiad sy'n arddangos Abertawe fel dinas hyderus sy'n edrych i’r dyfodol, sy’n seiliedig ar werthoedd Cymreig cryf.
 

Noddir Cymeriadau ar Grwydr gan Nathaniel Cars

Nathaniel Cars Logo

 


Noddir Llwyfan Plant Gŵyl Croeso gan Gynnig Gofal Plant Cymru Croeso

Childcare Offer for Wales

Cael hyd at 30 awr o ofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed
 

Noddir Gweithgareddau Cymraeg i Blant ar y Llwyfan gan Dîm Comisiynu'r Blynyddoedd Cynnar

Swansea Family Information Service logo

Mae Tîm Comisiynu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn falch o noddi diddanwr plant Cymraeg yn nigwyddiad Croeso Abertawe ar 28 Chwefror ac 1 Mawrth. Mae ein cefnogaeth yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i hyrwyddo'r Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar a chryfhau cyfleoedd i blant a theuluoedd brofi diwylliant Cymru drwy chwarae. 
Eleni, rydym wedi cynnig grant i ddathlu'r Gymraeg i leoliadau gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar ar draws Abertawe, gan eu galluogi i gynllunio gweithgareddau Cymraeg ystyrlon a arweinir gan blant yn eu lleoliadau. Mae noddi digwyddiad Croeso'n ein galluogi i ehangu'r dathliad hwn, gan ddod â theuluoedd ynghyd yng nghanol y ddinas i fwynhau adloniant AM DDIM o ansawdd uchel. 
Mae digwyddiad Croeso'n cynnig rhaglen fywiog i blant, pobl ifanc ac oedolion hŷn o bob oed, sy'n arddangos cerddoriaeth, bwyd, diwylliant a gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd. Rydym yn falch iawn o helpu i sicrhau bod profiadau Cymraeg yn hygyrch, yn llawen ac yn ganolog i ddysgu a datblygiad plant. 

www.childcareinformation.wales/servicedetail?localauthoritycode=W06000011 

www.facebook.com/swanseafis/

Noddir Gweithgareddau Cymraeg i Blant yn y Babell Pawb a Phopeth gan ddarpariaeth Dechrau'n Deg

Flying Start logo

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati fesul cam i Ehangu Gofal Plant Dechrau’n Deg ledled Cymru.

Mae gofal plant Dechrau'n Deg yn cynnig:

•            Gofal plant rhan-amser, o ansawdd uchel, a ariennir ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

•            Gofal plant am 2.5 awr y dydd, hyd at 12.5 awr yr wythnos, yn unol â thymor yr ysgol.

Gallwch wirio a ydych yn gymwys a gwneud cais am Ofal Plant Dechrau’n Deg drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol:

Gwirio'ch cymhwystra a gwneud cais.

Dydd Gwyl Dewi 2026 Daffodil logo     Welsh Govt logo

 

Funded by UK Government logo Dec 24Food and Drink Wales logo
Ariannwyd yr elfennau marchnata ar gyfer y digwyddiad hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Am gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau gwych?

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am…

Bwyd a Diod

Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i…