Hunanarlwyo

Ychwanegwch eich naws eich hun at eich gwyliau mewn llety hunanarlwyo ym Mae Abertawe a phenrhyn Gŵyr. Gallwch ymlacio gyda'ch anwylyd mewn bwthyn clyd, llogi porthdy sy'n croesawu eich ci neu fwynhau eich gwyliau ar eich cyflymder eich hun ym mhreifatrwydd eich fflat eich hun. Os ydych yn chwilio am lety i grŵp, gall hostel neu hundy fod yn brofiad difyr. Mater o ddewis yw coginio, wrth gwrs, ac os hoffech gael seibiant, gallwch faldodi eich hun drwy bryd blasus mewn tafarn, bwyd môr arbennig sy'n tynnu dŵr o'ch dannedd, neu pizza cludfwyd a wnaed â llaw.  

Dan sylw yr wythnos hon

  • Trawler Road

Baystays

Mae BAYSTAYS yn cynnig fflatiau moethus ar ymyl Bae Abertawe. Gradd ansawdd 3 a 4 seren gan Croeso…