Cynadleddau

Mae Bae Abertawe'n lleoliad gwych i gynnal eich cynhadledd neu'ch cyfarfod nesaf. Mae sawl lleoliad yn y ddinas sy'n addas ar gyfer cynadleddau bach a mawr, gan gynnwys lleoliadau crand fel Neuadd Brangwyn a rhai modern fel Arena Abertawe. Mae gan y ddinas hon wrth ymyl y môr - sy'n berffaith ar gyfer cynnal grwpiau trafod ar y traeth - gysylltiadau trafnidiaeth gwych, gyda chysylltiadau trên uniongyrchol â Paddington Llundain mewn llai na 3 awr a mynediad hawdd i draffordd yr M4.  

Mae gan y ddinas amrywiaeth o westai a llety hefyd, yn ogystal â bariau a bwytai i chi eu mwynhau ar ôl i’r diwrnod busnes ddod i ben.  

Ydych chi'n awyddus i wneud yn fawr o'ch ymweliad busnes? Cymerwch gip ar ein tudalen ysbrydoliaeth i ddarllen am bopeth y gallwch ei weld a'i wneud yn ystod eich ymweliad.  

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Ydych chi’n trefnu taith ond heb wybod sut i ddod o hyd i ni? Neu efallai eich bod chi am lawrlwytho arweiniad neu mae angen gwybodaeth am hygyrchedd arnoch chi. Cewch hynny a mwy yn y ddewislen ar y chwith.