Abertawe i Rosili
Gwneud yn Fawr o Lwybr yr Arfordir – O Abertawe i Rosili
Dechreuwch yn Abertawe – dinas y glannau – drwy fynd am dro ar hyd y promenâd i ddechrau, gan ei fod yn wastad ac yn hollol hygyrch yr holl ffordd i’r Mwmbwls. Cymerwch eich saib cyntaf i fwyta hufen iâ enwog o’r Mwmbwls – ni fydd angen i chi adael y llwybr hyd yn oed!
Mae clogwyni aruthrol deheuol Gŵyr yn dechrau y tu hwnt i’r Mwmbwls. Mae rhannau newydd o’r llwybr troed hwn hefyd yn hygyrch, felly gall cerddwyr â chadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio fwynhau’r golygfeydd godidog o’r llwybr rhwng Baeau Limeslade, Langland a Caswell. Mae pethau’n dechrau mynd yn fwy gwyllt ar ôl mynd heibio Caswell, ac nid o ran y golygfeydd yn unig! Chwaraeodd Cildraeth Brandi a Phwll Du rôl allweddol yn smyglo nwyddau yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Wrth i chi barhau ar hyd y clogwyn, byddwch yn siŵr o weld bae eiconig y Tri Chlogwyn (mae’r enw’n egluro’r cyfan!) – cadwch lygad am adfeilion Castell Pennard gerllaw. Ym Mae Oxwich, mae’r dirwedd yn newid i dwyni tywod a morfeydd – ac mae’n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Oxwich. Ewch am y clogwyni eto o gwmpas Trwyn Oxwich i fynd i Fae Porth Einon, hen bencadlys grŵp o smyglwyr enwog eraill o’r 18fed ganrif.
Gallwch barhau i gerdded ar hyd y clogwyni, ond os ewch chi ar hyd y creigiau neu’r traeth islaw (gan ddibynnu ar y llanw), gallwch weld Twll Culver, a oedd yn arfer bod yn golomendy canoloesol ond fe’i defnyddiwyd ar ôl hynny i storio nwyddau gwaharddedig smyglwyr! Wrth i chi barhau ar hyd llwybr y clogwyni, fe gyrhaeddwch Warchodfa Natur Genedlaethol Arfordir Gŵyr a Phen Pyrod, sy’n ymestyn i’r môr ac yn dangos dechrau traeth Bae Rhosili, sy’n wynebu’r Iwerydd. Ewch ar hyd y sarn i Ben Pyrod os yw’r llanw’n caniatáu – gwiriwch hyn yng Nghanolfan Gwylio’r Glannau ger dechrau’r sarn.
Yna ewch tua’r bryn a pharhewch i gerdded ar hyd Twyni Rhosili i gael gweld y golygfeydd godidog ar draws y bae, Pen Pyrod ac ynys lanwol Burry Holms.
Caniatewch 2-3 diwrnod i gerdded y llwybr – gan ddibynnu ar faint o seibiau rydych chi’n eu cymryd i archwilio!
Cam Wrth Gam
Os nad yw 51 milltir o Lwybr Arfordir Gŵyr yn ddigon i chi, peidiwch â phoeni – mae gennym ragor o lwybrau i chi eu mwynhau! Os ydych chi’n barod am yr her, cerddwch ar hyd Llwybr Gŵyr mewn tair rhan, a fydd hyn yn eich arwain o bwynt uchaf Bae Abertawe ym Mhenlle’r Castell, yr holl ffordd i ran fwyaf gorllewinol y penrhyn yn Rhosili. Yn ogystal, mae gennym lawer o lwybrau cerdded drwy’r goedwig; beth am roi cynnig ar Warchodfa Natur Coed yr Esgob a Pharc Gwledig Clun, llwybrau cerdded y rhaeadrau yng Nghoed Cwm Penllergaer a llwybrau’n llyn yn Nyffryn Lliw?
Gwybodaeth ddefnyddiol
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk
Dolenni ychwanegol
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...
Lles
Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…
Addas i Gŵn
Does dim rhaid i'ch anifail anwes aros gartref pan fyddwch yn archwilio Bae Abertawe oherwydd…
Pethau i’w Dwneud yn yr Awyr Agored
Rydym yn cynnig mwy na syrffio, padlo bwrdd ar eich traed, arfordiro a chaiacio yn unig ym Mae…
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Llwybrau Cerdded
Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.