Natur a Bywyd Gwyllt yn Abertawe a'r Mwmbwls

Parc Singleton

Ychydig filltiroedd allan o ganol y ddinas fe welwch Barc Singleton (SA2 8PY), 250 erw o laswellt a choed aeddfed. Safle ystâd wledig oedd hwn yn wreiddiol, ac fe’i sefydlwyd fel parc cyhoeddus tua chan mlynedd yn ôl. Mae’n parhau i fod yn un o fannau gwyrdd cynaledig mwyaf Abertawe. Oherwydd y doreth o goed mawr, rydych chi’n siŵr o weld ambell wiwer lwyd ond mae’r parc hefyd yn gartref i lwynogod, dyfrgwn ac ystlumod.

Mae Gardd Fotaneg y tu mewn i’r parc, sy’n gartref i blanhigion prin a dieithr o bob cwr o’r byd ac yn fwyaf diweddar gardd blodau gwyllt. Mae ar agor rhwng 10.00am a 6.00pm bob dydd.

Singleton Park

Gerddi Clun

Safle arall lle mae gwenyn a gloÿnnod byw yn ffynnu yw Gerddi Clun (SA3 5AS), sy’n adnabyddus am ei gasgliad o Asaleâu a Rhododendronau sy’n creu sioe drawiadol yn ystod mis Mai. Yn ystod misoedd y gaeaf fe welwch y Gollen Ystwyth, y Ffigys-gollen Tsieineaidd a Phinwydden Bae Wystrys Awstralia. Cadwch lygad am un o’r Cypreswydd Monterey talaf a gofnodwyd ym Mhrydain ger mynedfa Castell Clun.

Singleton Park

Bae Bracelet

Mae Bae Bracelet (SA3 4JT) ychydig rownd y gornel o ben y Mwmbwls. Yma cewch hyd i grancod meddal, llygaid meheryn, sêr môr a mwy o amgylch pyllau trai a cherrig ei draethlin greigiog. Byddwch hefyd yn gallu gweld yr wylan ben-ddu yn yr ardal hon yn hela am bysgod bach yn y beisleoedd.

Uwchben y bae mae gwarchodfa natur Bryn y Mwmbwls, 23 hectar o lwyni a choetir sy’n gartref i bryfed niferus sy’n ffynnu ar y planhigion amrywiol. Mae mamaliaid bach yn gwneud eu cartrefi yn y ddrysfa o lwyni eithin ac mae adar gan gynnwys yr ehedydd, sgrech y coed a’r gnocell werdd i’w gweld yn aml yn yr awyr uwchben.

Bracelet Bay with lighthouse in the distance

Ydych chi'n cynllunio'ch taith?

Gŵyr

Yn daith fer yn unig yn y car o Abertawe, mae Penrhyn Gŵyr yn fwy nag wyneb pert. Fe'i…

Beicio

Paratowch i fynd ar eich beic. Mae gan Fae Abertawe ddigon o lwybrau beicio heb draffig ac…

Archwiliwch ragor

Natur a Bywyd Gwyllt

Mae ardal Bae Abertawe yn arbennig o ran y natur a’r bywyd gwyllt sydd ar gael, mae ei leoliad daearyddol yn cwmpasu’r arfordir a chefn gwlad, o fewn hanner awr gallwch fynd o nofio yn y môr gyda gwymon yn gogleisio’ch traed i sefyll ar ben mynydd gyda boncathod a barcutiaid…