Pobl a Lleoedd
Pobl a lleoedd, tirweddau a chwedlau
O ddiwydiant trwm i gelfyddyd wych, mae’n anodd categoreiddio stori Bae Abertawe’n hawdd. Dilynwch linell o’r gorffennol pell i’r presennol, a byddwch yn dod o hyd i straeon brenhinoedd chwedlonol, sêr opera, newyddbethau diwydiannol, barddoniaeth, paentio a hyd yn oed ambell anifail anwes dewr.
Fe glywch am Abertawe fel canolfan metel trwm y busnes copr byd-eang a man geni llawn ysbrydoliaeth Dylan Thomas, un o ysgrifenwyr enwocaf yr 20fed ganrif. Byddwch yn dod ar draws lleoedd anhygoel hefyd fel Neuadd Brangwyn hanesyddol a’i gweithiau celf enfawr, a Phenllergaer, coetir toreithiog lle mae natur wedi cael rhywfaint o help llaw. A chewch gipolwg agosach ar sêr y sgrîn fach a’r sgrîn fawr sy’n dod o’r ddinas, o actorion sydd wedi ennill Oscar i leoliadau ffilmio trawiadol. Yn olaf, cwblhewch y pecyn â thraethau syrffio syfrdanol, pier heb ei ail ac amgueddfeydd bendigedig.
Dylan Thomas
Arhosodd Dylan Thomas, crwt lleol yr oedd ei ddawn geiriau wedi’i dywys o gwmpas y byd, yn grwt o Abertawe tan y diwedd. Ni waeth pa mor bell y teithiodd, roedd bob amser yn cydnabod yr ysbrydoliaeth a gafodd o’i dref enedigol. Fel y dywedodd yntau ‘Os mai gwlad y gân yw Cymru, mae Abertawe’n ddinas o feirdd.’ Byddwch yn rhan o stori bywyd Dylan wrth ymweld â chartref ei blentyndod yn 5 Rhodfa Cwmdoncyn, a chrwydro ym mharc deiliog Cwmdoncyn. Gallwch gael golwg agosach ar ei fywyd yng Nghanolfan Dylan Thomas, a chlywed y dyn ei hun yn adrodd ei gerddi yn y llais cyfoethog, tonnog digamsyniol hwnnw.

John Dillwyn Llewelyn
Am brawf i ddangos ei bod yn bosib gwella ar fyd natur, ewch am dro yn ardal wyllt Penllergaer. Mae’r darn o goetir hwn sy’n ymddangos yn annofedig – sy’n swatio mewn cwm serth ar gyrion Abertawe – mewn gwirionedd yn dirwedd a ddyluniwyd, syniad y perchennog a’r botanegydd Fictoraidd, John Dillwyn Llewelyn. Mae Parc Penllergaer, sydd wedi’i adfer i’w hen ogoniant, yn deyrnged addas i’w grëwr a oedd, ynghyd â’i ddiddordeb mewn botaneg, hefyd yn ffotograffydd medrus, yn awdur plant, yn ddyngarwr ac yn Uchel Siryf Morgannwg.
Henry Hussey Vivian
Ewch i Ganolfan Siopa Dewi Sant Abertawe a byddwch yn dod wyneb yn wyneb â cherflun efydd trawiadol o’r pendefig metel, Henry Hussey Vivian. Yn ystod y 19eg ganrif, câi 90 y cant o gopr y byd ei fwyndoddi yng Nghwm Tawe, gan arwain at roi’r llysenw Copropolis iddo. Gwaith copr yr Hafod Vivian oedd y mwyaf yn y byd, gan gyflogi mwy na 1,000 o bobl pan oedd ar ei anterth. Ond o ailfeddwl, efallai y dylid fod wedi gwneud y cerflun o gopr?
Paneli’r Brangwyn
Mae maint yn bwysig wrth werthfawrogi’r gweithiau celf enfawr hyn. Paentiwyd yr 16 murlun enfawr hyn sy’n hongian yn Neuadd Brangwyn ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi ar ddiwedd y 1920au a dechrau’r 1930au gan yr artist Syr Frank Brangwyn. Pan gawsant eu gwrthod am fod yn rhy ‘amhriodol ac afieithus’ roeddem yn fwy na pharod i ddod i’r adwy a rhoi cartref iddynt. Mae’r paentiadau’n fwrlwm o jyngl toreithiog, golygfeydd o goedwigoedd ac anifeiliaid egsotig a phlanhigion lliwgar – roedd colled San Steffan yn golygu bod Abertawe ar ei hennill!

Adelina Patti
Efallai na chafodd hi ei geni yma, ond roedd y gantores Sbaenaidd o fri yn bendant yn un ohonom. Daeth ei llais ag enwogrwydd iddi ar draws y byd, ond ymgartrefodd ym mhen uchaf Cwmtawe. Prynodd Gastell Fictoraidd-Gothig tywyll Craig-y-Nos ym 1878 a bu’n byw yno tan ei marwolaeth ym 1919. Roedd yn gyfaill da i’w chartref mabwysiadol, a rhoddodd ei phafiliwn gardd gaeaf i ddinas Abertawe yn 1918. Mae’r neuadd hon, sef Pafiliwn Patti, sydd bellach yn lleoliad cyngherddau a neuadd digwyddiadau, yn edrych dros y bae ar Heol y Mwmbwls.
Sêr Bae Abertawe
Efallai ein bod yn ymffrostio, ond mae’n ymddangos bod ein hardal yn cynhyrchu mwy na’i chyfran deg o sêr actio. Tref gyfagos Port Talbot yw man geni rhestr o sêr rhyngwladol y llwyfan a’r sgrîn fawr. Roedd y dref ddiwydiannol yn gartref i’r eicon o’r 60au, Richard Burton, yr actor cameleaonaidd, Michael Sheen a hyd yn oed Hannibal Lecter ei hun sef Syr Anthony Hopkins. Ond nid bechgyn enwog yn unig ddaw o’r ardal. Efallai ei bod yn un o deulu brenhinol Hollywood erbyn hyn, ond rydym yn eithaf sicr bod Catherine Zeta-Jones yn dal yn ferch o’r Mwmbwls.
Hwyl Syrffio
Os ydych yn chwilio am fôr, tywod, haul ac ewin, does dim angen i chi deithio’r holl ffordd i Galiffornia. Wel, efallai y cewch fwy o heulwen yno, ond mae gennym ddigon o’r dair elfen arall. Mae Llangynydd ym Mae Rhosili wedi bod yn un o fannau syrffio pennaf y DU ers i’r gamp ddod yma o Awstralia yn y 1950au. Mae hefyd yn gartref i’r cyn bencampwr syrffio Prydeinig ac Ewropeaidd, Pete ‘PJ’ Jones, perchennog y siop syrffio leol.

Lleoliadau chwedlonol
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Gan ddefnyddio technoleg yr 21ain ganrif i roi bywyd i’n hanes diwydiannol, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yw’r em yng nghoron Ardal Forol ddisglair Abertawe. Daw uwch-dechnoleg ynghyd â diwydiant trwm mewn arddangosion rhyngweithiol sy’n eich tywys drwy 300 mlynedd o arloesedd, stori epig o ager, dur, glo a haearn. Ond mae’n fwy na pheiriannau mawr a pheirianneg aruthrol. Gallwch hefyd ddysgu am y straeon dynol, gan gael cipolwg ar fywydau pobl a oedd yn flaenllaw yn y Chwyldro Diwydiannol.
Pier y Mwmbwls
Mae pier da yn elfen hanfodol o bob tref lan môr go iawn. Mae pier dihafal y Mwmbwls yn enghraifft arbennig o dda o hyn. Mae’r pier a adeiladwyd ym 1898 wedi bod yn fan i ymwelwyr fynd am dro, yn ganolfan i bysgotwyr, yn lleoliad ar gyfer gorsaf bad achub ac yn orsaf derfynol ar gyfer stemars olwyn. Mewn blynyddoedd diweddar, mae’r pier wedi adennill ei safle fel rhan ganolog o brofiad y Mwmbwls, o ganlyniad i waith adnewyddu helaeth sydd wedi’i adfer i anterth ei ogoniant Fictoraidd.
Y Brenin Arthur
Mae chwedlau am frenin mytholegol Prydain i’w cael ar draws y wlad. Mae stori Maen Ceti neu Garreg Arthur yn perthyn i ni. Yn ôl y chwedl, roedd Arthur yn cerdded yn Sir Gâr pan ganfu gerigyn yn ei esgid, ac fe’i taflodd ar draws y foryd. Wrth iddo hedfan, tyfodd i faint enfawr cyn glanio yn ei safle presennol ar Gomin Cefn Bryn penrhyn Gŵyr. Bydd archeolegwyr yn dweud wrthych mai bedd Neolithig yw’r heneb greigiog hon sy’n dyddio’n ôl i 2500 CC, ond gwyddwn pa stori sydd orau gennym.

Jac Abertawe
Y ci arwrol, Jac Abertawe, oedd y ci achub gorau. Credir bod y pencampwr cïol hwn, a oedd bob amser yn barod i ymateb i arwyddion cyfyngder, wedi achub 27 o bobl rhag boddi yn afon Tawe rhwng 1930 a 1937. I gydnabod ei ddewrder, enwyd Jac yn Gi Dewraf y Flwyddyn ym 1936 gan y London Star ac ef yw’r unig gi hyd heddiw i gael ei wobrwyo â dwy fedal efydd (sy’n cyfateb i Groes Victoria) gan yr Ymddiriedolaeth Gŵn. Mae ei chwedl y parhau. Hyd heddiw, defnyddir y llysenw ‘jacs’ ar gyfer brodorion Abertawe.
Amgueddfa Abertawe
Amgueddfa Abertawe, sy’n dyddio’n ôl i 1841, yw’r hynaf yng Nghymru. Ynghyd â’i helaethrwydd mympwyol o arddangosiadau – popeth o fymi 2000 o flynyddoedd oed i gegin Gymreig draddodiadol – credir bod yr amgueddfa’n gartref i nifer o ysbrydion a drychiolaethau. Cadwch lygad am ysbryd llongwr (o’r goleulong Helwick, sydd bellach wedi’i hangori ym Marina Abertawe) sy’n patrolio’r grisiau, a merch fach fwganllyd o’r enw Sarah sy’n tynnu llewys ymwelwyr wrth iddi chwilio am ei mam goll.
Hanes a Threftadaeth
Mae lleoliadau Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn llawn hanes, o gestyll hynafol, môr-ladron a smyglwyr i'w hanes diwydiannol cyfoethog gyda gwaith copr Abertawe a threftadaeth ddiwylliannol eiconau llenyddol fel Dylan Thomas.