Cerddoriaeth Fyw
Mae Bae Abertawe'n llawn egni bywiog, yn enwedig ar fachlud yr haul pan fydd cyffro cerddoriaeth fyw'r ddinas yn meddiannu'r sylw! O dafarnau clyd i fariau prysur, mae bandiau, cantorion a pherfformwyr lleol talentog yn cyfoethogi bywyd nos Abertawe. P'un a ydych yn hoff o roc, jazz, cerddoriaeth annibynnol neu acwstig, dewch o hyd i leoliad sy'n berffaith i chi.
Ac yn goron ar y cwbl, gallwch gyfuno eich profiad o gerddoriaeth fyw â noson fawr allan ym Mae Abertawe. Mae llawer o’r lleoliadau hefyd yn fariau neu'n dafarnau, gan ei gwneud hi'n hawdd mwynhau diod wrth i chi wrando ar y caneuon. Ceir rhagor o syniadau ynghylch ble i barhau â'ch noson drwy fynd i'n tudalen Bywyd Nos, ac mae manylion yr holl leoedd gorau ar gael ar ein tudalen Lleoliadau.
Peidiwch â cholli'r sioeau sydd ar ddod – cadwch lygad ar ein Rhestr Ddigwyddiadau am y perfformiadau diweddaraf ym Mae Abertawe. Dewch i gael blas ar guriad calon cerddorol y ddinas!
Bywyd Nos
Pan fydd y penwythnos yn cyrraedd ac mae'n amser i ymlacio, Abertawe yw'r lle i fod. Mae gennych ddigon o ddewis, ni waeth a ydych chi'n mynd am ddiod dawel gyda ffrindiau, yn gwrando ar gerddoriaeth fyw neu'n dawnsio drwy'r nos.
Bwyd a Diod
Mae Abertawe'n enwog am ei bwyd, ac ni waeth pa fath o fwyd yr hoffech chi ei fwyta, gallwch ddod o hyd i bopeth hyd yn oed ar gyfer y ciniawyr mwyaf gwybodus yn Abertawe, o gaffis clyd i brofiadau bwyta seren Michelin.
Gan eich bod chi yma...
Lleoedd i Aros
Ni waeth a ydych yn chwilio am le i aros, mae gan Fae Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Digwyddiadau
Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am…
Pethau i'w Gwneud
Does dim llawer o leoedd lle gallwch siopa yn y bore a syrffio yn y prynhawn. Gallwch gael y gorau o ddau fyd ym Mae Abertawe!