Cwestiynau Cyffredin am Gyngherddau ym Mharc Singleton

Jul 03
Jul 05
Jul 31
Aug 01
Aug 02

Gofynnwn am eich cydweithrediad ac i chi ddilyn y canllawiau canlynol a ddyluniwyd i’ch helpu ac i wneud eich diwrnod mor llyfn â phosib.

Isod fe welwch yr amserau unigol ar gyfer pob un o’r cyngherddau, yn ogystal â Phethau i’w Gwneud a Phethau i Beidio â’u Gwneud a rhagor o wybodaeth i’ch helpu chi i gael y gorau o ddiwrnod y digwyddiad.

SUT I GYRRAEDD

  • Cynhelir y gyngerdd ym Mharc Singleton, Mumbles Road, Abertawe SA2 0AU

MEWN CAR

  • I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith ffyrdd arfaethedig, ewch i roadworks.org neu ar gyfer traffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru – traffic-wales.com
  • Nodwch y côd post SA2 0AU yn eich system Llywio Lloeren.
  • Bydd arwyddion helaeth yn eu lle cyn y gyngerdd yn dweud wrth y rheini sy’n mynd i’r gyngerdd am leoliad y cyfleusterau parcio.

SAFLEOEDD PARCIO CEIR

MAES PARCIO’R REC

  • Gellir cael mynediad i’r Rec o Mumbles Road, Abertawe. Codir £10 fesul car. Arwynebedd graean yw’r maes parcio hwn. Bydd taith gerdded fer (850m) o’r maes parcio i arena’r gyngerdd. Côd post – SA2 0AU, What 3 Words https://what3words.com/boss.shops.hill

Mae parcio hygyrch ar gael yn nau maes parcio’r digwyddiad

PARCIO A THEITHIO

  • Does dim cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hwn ar hyn o bryd.

Man tacsis a gollwng

  • Os ydych yn cyrraedd mewn tacsi dylech anelu at gael eich gollwng a’ch casglu yn Bryn Road. Ni chaiff tacsis fynd i mewn i’r parc.
    Mae’r man gollwng hygyrch ger mynedfa Gower Road – SA2 9BY.

CYRRAEDD AR Y BWS

  • Mae’r bysus yn mynd o ganol dinas Abertawe a lleoliadau amrywiol eraill i Barc Singleton.
  • Lleolir safleoedd bysus ger mynedfa Mumbles Road i Barc Singleton.
  • Dylai’r rheini sy’n mynd i’r gyngerdd fod yn ymwybodol o amserau’r gyngerdd a gwirio gyda’r gweithredwr (First Cymru: 0871 200 2233 neu www.firstgroup.com) am fanylion yr amserlen.

CYRRAEDD AR Y TRÊN

  • Yr orsaf reilffordd agosaf at Barc Singleton yw Stryd Fawr Abertawe sydd oddeutu 2 filltir i ffwrdd. Mae arhosfan tacsis y tu allan i’r orsaf.
  • Dylai’r rheini sy’n mynd i’r gyngerdd fod yn ymwybodol o amserau’r gyngerdd a gwirio gyda’r gweithredwr (Trafnidiaeth Cymru: 0333 3211 202 www.tfwrail.wales | First Great Western: 0345 7000 125 neu www.gwr.com) am fanylion yr amserlen.
  • Ewch i www.nationalrail.co.uk i wirio ymlaen llaw am unrhyw waith peirianneg arfaethedig a all effeithio ar eich taith.

HYGYRCHEDD

  • Cynhelir y digwyddiad ar wair; bydd stiwardiaid cyfeillgar, toiledau hygyrch ac ardal wylio i bobl anabl ar gael. Os bydd angen lle arnoch ar y platfform gwylio, rhaid archebu hwn cyn y digwyddiad trwy e-bostio y trefnydd digwyddiad.
  • Mae parcio hygyrch ar gael yn y Rec ond mae gan y maes parcio arwyneb graean.
  • Sylwer, does dim gorchudd dros y llwyfan gwylio hygyrch.

TOCYNNAU

  • Sicrhewch eich bod wedi lawrlwytho eich tocynnau cyn cyrraedd y giât.
  • Cadwch eich tocynnau a byddwch yn barod i’w cyflwyno y tu mewn i’r digwyddiad, boed ar bapur neu wedi’u harbed ar eich ffôn.

TYWYDD

  • Ni chaiff y gyngerdd ei chanslo os bydd y tywydd yn wael.
  • Dewch â dillad addas ar gyfer y tywydd. Digwyddiad awyr agored a gynhelir mewn cae glaswellt yw hwn; gall y tir fod yn wlyb neu’n fwdlyd.
  • Dewch â dillad addas i’r tywydd gyda chi. Er mwyn rhoi ystyriaeth i bobl eraill yn y gyngerdd, gwaherddir ymbaréls a gasebos.

BWYD

  • Ni chaniateir i chi ddod â bwyd a diod i mewn i’r digwyddiad (*oni bai fod angen gwneud am resymau meddygol).
  • Bydd amrywiaeth o arlwyo, sy’n cynnig amrywiaeth o fwyd a diod, ar gael yn arena’r digwyddiad o amser agor y gatiau.
  • Gallwch ddod â photel o ddŵr wedi’i selio.

TOILEDAU

  • Mae cyfleusterau toiledau safonol a hygyrch ar gael ar draws arena’r digwyddiad.

Mynediad Hwyr

  • Peidiwch ag aros tan y funud olaf i gyrraedd y safle gan efallai y byddwch yn colli’r perfformiad. 

SYLWER: DIGWYDDIAD DI-ARIAN YW HWN

Anifeiliaid anwes

  • Peidiwch â dod ag anifeiliaid i’r digwyddiad (ac eithrio cŵn tywys cofrestredig). Os ydych yn bwriadu dod â’ch ci tywys, anfonwch neges i'r trefnydd digwyddiad.

Dogfennau adnabod â ffotograff

  • Os ydych yn dymuno prynu alcohol, dewch â dogfen adnabod â ffotograff (pasbort, trwydded yrru’r DU, dogfen adnabod gyda logo PASS). Bydd polisi ‘Herio 25, Gweini 18’ llym ar waith.

 

Cerddoriaeth Fyw a Chyngherddau

Mae Abertawe'n lle sy'n dwlu ar gerddoriaeth, a ph'un a ydych yn chwilio am nosweithiau anffurfiol a chartrefol lle'r arddangosir y doniau lleol gorau, theatrau sy'n croesawu sêr rhyngwladol neu barciau lle mae rhai o'r enwau mwyaf yn perfformio, mae'r cyfan ar gael…