Parcio
Dinas ar lan y môr yw Abertawe, ac mae popeth o fewn taith 30 munud mewn car. Os ydych yn cyrraedd yr ardal mewn coets neu mewn car, gallwch ddod o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am barcio yn Abertawe yma.
Meysydd Parcio
Mae llawer o feysydd parcio i chi ddewis ohonynt yn ystod eich gwyliau yn Abertawe a'r cyffiniau. Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn, gan gynnwys mapiau, costau a mwy ar gyfer y meysydd parcio hyn yn www.abertawe.gov.uk/meysyddparcio
Parcio coetsis
- Yng nghanol y ddinas, mae lleoedd parcio i goetsis ar gael ar safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian yn y maes parcio gorlif. w3w.co/flows.pitch.dunes
- Nid oes lle parcio swyddogol i goetsis yn y Mwmbwls.
- Yn ardal Gŵyr, mae nifer o feysydd parcio preifat sy'n cynnig lleoedd parcio i goetsis. Gallwch ddod o hyd i leoedd parcio i goetsis yn y meysydd parcio canlynol ar y penrhyn: Bae Langland, Bae Caswell, Bryn Caswell, Horton a Bae Porth Einon. Codir tâl o £10.00 am ddiwrnod llawn a £5.00 am hyd at 4 awr.
(Sylwer bod y meysydd parcio hyn yn brysur iawn yn ystod gwyliau’r haf ac ar benwythnosau - fe'ch cynghorir i gael cynllun parcio amgen yn ystod cyfnodau prysur, e.e. gollwng teithwyr a dychwelyd yn hwyrach i'w casglu.) - Mae'r meysydd parcio preifat canlynol hefyd yn cynnig lleoedd parcio i goetsis: Bae Rhosili (yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Bae Oxwich a Chanolfan Treftadaeth Gŵyr, Parkmill (cyfeiriwch at y gweithredwr am gostau).
Gwybodaeth i Ymwelwyr
Ydych chi’n trefnu taith ond heb wybod sut i ddod o hyd i ni? Neu efallai eich bod chi am lawrlwytho arweiniad neu mae angen gwybodaeth am hygyrchedd arnoch chi. Cewch hynny a mwy yn y ddewislen ar y chwith.