Llwybr Cerdded Treftadaeth Mawr

Parsel Mawr, sy’n fwy adnabyddus fel ‘Mawr’ yn unig, yw cefn gwlad wledig brydferth Abertawe.

Mae Llwybr Treftadaeth Mawr yn mynd â cherddwyr drwy bentref hardd Felindre a Chronfa Ddŵr boblogaidd Lliw Isaf, gan fynd heibio i dirnodau sy’n dangos cyfraniad arwyddocaol Mawr at dwf Abertawe a de Cymru trwy ei ffermydd, ei lofeydd a’r gronfa ddŵr ei hunan.

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Pellter: 3.5 milltir (5.6km).
Amser: 2-2.5awr.
Math o daith gerdded: Hawdd.
Byddwch yn barod: Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos. Tarmac a pheth tir anwastad o gwmpas y gronfa. Rhai camfeydd, un rhes o risiau ac un ffordd weddol serth.
Cychwyn a gorffen: Cronfa Ddŵr Lliw Isaf.
Gwybodaeth ddefnyddiol: Mae’r llwybr yn cynnwys tir anwastad: arwynebau caled, cadarn a llyfn. Parcio ar gael ym maes parcio Cronfa Ddŵr Lliw. Ar agor tan 6.00 yn y prynhawn. Lluniaeth a thoiledau cyhoeddus - ar gael ar ddechrau’r llwybr.  Gwasanaeth cludfwyd un unig ar hyn o bryd.

An older man and woman walking on a rural path with an old stone building to the side of it.

Manylion y daith gerdded

  • Mae’r daith yn dechrau ym maes parcio Cronfa Ddŵr Lliw Isaf. Ewch wrthglocwedd ar hyd llwybr tarmac sydd wedi’i nodi’r glir.
  • Ewch heibio adfeilion pwll glo Fictoraidd Felindre cyn troi i’r chwith i lawr llethr ac ar draws y nant i ochr arall y gronfa (mae opsiwn i barhau yn syth ar hyd y ffordd am filltir ychwanegol i Gronfa Ddŵr Lliw Uchaf).
  • Trowch i’r chwith ar ochr arall y bont a pharhau gwrthglocwedd ar hyd glan arall y gronfa ddŵr.
  • Gadewch y gronfa y tu ôl i chi i barhau yn syth ar hyd Llwybr y Bugail tuag at bentref Felindre.
  • Ewch i mewn i’r pentref ar hyd Heol Myddfai, gan fynd heibio capel Nebo ar y chwith.
  • Ewch tua’r bont sy’n croesi afon Lliw a heibio’r hen felin, cyn mynd yn ôl i’r gronfa ddŵr ar hyd Heol Myddfai a Llwybr y Bugail.

Uchafbwyntiau

  • Adeiladwyd Cronfa Ddŵr Lliw Isaf rhwng 1862 a 1867 i ddarparu dŵr glân i dref Abertawe a oedd yn ehangu’n gyflym, gyda’i thoreth o weithfeydd mwyndoddi copr, haearn a thunplat. Yn sgîl ei chwblhau datblygodd y rhanbarth y trydydd iachaf yn Ewrop.
  • Mae gan Mawr hanes cyfoethog o gloddio am lo. Ceir tystiolaeth ohono ar y llwybr, sef offer weindio Glyn-deri a storfa phowdr gwn pwll glo Felindre, a adawyd ym 1877.
  • Mae Capel Nebo yn gartref i ‘faen llofruddiaeth’ i goffáu un o’r digwyddiadau mwyaf trychinebus yn hanes hir Mawr, llofruddiaeth y llaethferch, Eleanor Williams.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.