Gwyliau Teulu ym Mae Abertawe

Gyda'i lleoliad trefol, cefn gwlad ac ar lan y môr, mae Bae Abertawe'n berffaith ar gyfer anturiaethau teuluol. Gallwch ddysgu syrffio ar draeth gorau Prydain, archwilio Penrhyn Gŵyr (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain) ar gwch neu ar lwybr arfordir darluniadol Cymru, mentro gwifrau sip, darganfod paradwys trofannol, cael hwyl yng nghyfadeilad parc dŵr, hamdden a champfa mwyaf Cymru, ac archwilio'n hamgueddfeydd rhyngweithiol, o'r radd flaenaf. Os yw hynny'n swnio'n ddelfrydol i chi, rydych chi wedi dod o hyd i'r lle perffaith, ac mae croeso i'r teulu cyfan – hyd yn oed y rhai â phedair coes!

Llety addas i deuluoedd

Gall teuluoedd fwynhau'r bae mewn modd esmwyth gan fod llu o westai, lleoliadau gwely a brecwast, gwersylloedd a safleoedd carafanau ar gael sy'n addas i deuluoedd.

Ysbrydoliaeth

Ydych chi'n trefnu eich gwyliau nesaf? Does dim angen edrych ymhellach am lwybrau cerdded gwych, bywyd gwyllt a chwaraeon dŵr yn ogystal â hufen iâ, bwyd y môr a golygfeydd o'r môr! Os ydych chi'n chwilio am harddwch naturiol eithriadol a chanol dinas bywiog gyda…