Ogofau, y Brenin Arthur a Llychlynwyr Rhyfelgar
Mae pobl wedi bod yn byw ar benrhyn Gŵyr ers amser maith – o leiaf 33,000 o flynyddoedd yn ôl y cyfrif diwethaf. Dros y milflwyddiannau, mae cyn-breswylwyr y penrhyn wedi gadael digon o olion o’u presenoldeb. Byddwch yn dod ar draws dwsinau o henebion cofrestredig wedi’u gwasgaru ar draws bryniau, tir comin ac arfordir Gŵyr. Weithiau, maent yn gudd o dan eich traed, mewn lleoedd tanddaearol fel Ogof Pen-y-fai (Pafiland) ac Ogof y Dannedd, pyrth tywyll i fywydau’n hynafiaid. Mae’n amhosib peidio â sylwi ar henebion a meini hirion mawreddog Gŵyr sy’n ychwanegu haen o ddirgelwch arallfydol i dirweddau’r penrhyn sydd eisoes yn chwedlonol.
Ogofâu Gŵyr
Teithiwch ymhellach fyth yn ôl mewn amser; dilynwch ein hynafiaid cynharaf o dan y ddaear. Mae gan benrhyn Gŵyr system ogofâu hynod ddiddorol sy’n cadw cyfrinachau hynafol. Mae Ogof y Dannedd, ogof sy’n ymddangos fel pe bai’n ddiderfyn, yn parhau am oddeutu milltir, gan ei gwneud yr ogof hwyaf ym mhenrhyn Gŵyr. Darganfuwyd olion preswyliad dynol yno mewn cloddfa ym 1962. Gadawodd preswylwyr ogofâu’r Oes Efydd offer, crochenwaith, esgyrn anifeiliaid ac arteffactau hynafol eraill ar eu hôl. Gellir ymweld â safle’r ogof, ond mae mynediad i’r ogof yn gyfyngedig am resymau diogelwch. Ogof Pen-y-fai (Pafiland) yw seren gudd penrhyn Gŵyr. Mae wedi bod yno ers amser maith – 33,000 o flynyddoedd i fod yn union gywir. Y safle archaeolegol o fri hwn, un o safleoedd claddu cynharaf y gwyddys amdano yn Ewrop, yw man claddu’r Fenyw Goch enwog (mewn gwirionedd, roedd y sgerbwd o’r cyfnod paleolithig a liwiwyd gan ocr a ganfuwyd yma ym 1823 yn wryw, ond parhaodd yr enw). Mae’n hawdd deall pam na tharfuwyd ar yr ogof am aeonau – mae ymweld â hi’n broses beryglus oherwydd ei lleoliad lletchwith.

Bedd y Cawr ac Ogof Cat Hole
Dewch i ni wneud un peth yn glir: Cyn belled ag y gwyddom, nid oes dim cewri erioed wedi cael eu claddu yma. Ond mae gan y lle hwn, a elwir hefyd yn Barc le Breos, sawl stori fawr i’w hadrodd. Mae cyfres o gloddiadau yn y garnedd siambr hir hon sy’n dyddio nôl i’r cyfnod Neolithig cynnar wedi dadorchuddio gweddillion dros 40 o bobl. Mae profion wedi datgelu fod esgyrn a ddarganfuwyd yn y siambrau hyn yn hŷn o lawer na’r rhai a ddarganfuwyd yn y cyntedd, gan ddangos bod y beddrod wedi cael ei ddefnyddio’n barhaol am ganrifoedd. Mae Ogof Cat Hole gerllaw yn un i’r rhai sy’n frwd dros gelf gynhanesyddol. Paentiad ogof o garw a ddarganfuwyd yn Ogof Cat Hole yn 2010 yw’r darn hynaf o gelf graig ym Mhrydain (ac o bosib yn holl ardal gogledd-orllewin Ewrop). Crafwyd y llun ar y wal greigiog gan artist anhysbys dros 14,000 o flynyddoedd yn ôl, pan gâi’r ogof ei defnyddio fel gwersyll tramwy gan helwyr oes yr iâ. Mae’n hawdd cyrraedd yr ogof ar droed, felly mae hyd yn oed yn fwy anhygoel na chafodd y paentiad ei ddarganfod am gyhyd. (Mae mynediad yn gyfyngedig i geg yr ogof i ddiogelu’r paentiad yn yr ogof)
Burry Holms
Dyma brawf i ddangos nad yw unrhyw beth yn aros yr un peth. Nid erys amser am neb, yn enwedig yn achos ymsefydlwyr Oes y Cerrig neu Oes yr Haearn yn Burry Holmes ar ben gogleddol Bae Rhosili. Yn yr amserau hynny, byddai wedi bod yn fryn mewndirol – man anheddu diogel a delfrydol i’n hynafiaid. Ynys lanw ydyw erbyn heddiw. Darganfuwyd blaenau gwaywffyn o Oes y Cerrig yma, ochr yn ochr ag olion caer o Oes yr Haearn ac adfeilion mynachaidd canoloesol.

Maen Ceti (Carreg Arthur)
Mae Maen Ceti, neu Garreg Arthur yn faen mawr, trawiadol. Mae’r capfaen 25 tunnell sy’n coroni’r bedd neolithig hwn yn un go arbennig (er bod y cysylltiadau â chwedl Arthur – fel y rhai ledled Prydain – yn eithaf annelwig). Mae’n rhaid i chi edmygu’r dyfeisgarwch pensaernïol y bu ei angen i weithio gyda deunyddiau mor fawr mewn oes offer cerrig cyntefig. Roedd y gwaith caled yn werth chweil. Mae Maen Ceti ar frig y pentwr o ran henebion. Mae ei leoliad trawiadol ar gomin uchel Cefn Bryn â golygfeydd eang yn helpu hefyd.

Y Llychlynwyr ym mhenrhyn Gŵyr
Er nad oeddent wedi llwyddo i ymsefydlu yma i’r un graddau ag yn rhannau eraill y DU, roedd y Llychlynwyr rhyfelgar wedi gadael eu hôl ar y penrhyn o hyd. Yn 968OC, dinistriwyd priordy Sant Cynydd yn Llangynydd gan gyrchlu, ac mae rhai enwau lleoedd sydd wedi’u dylanwadu gan y Llychlynnwr yn awgrymu efallai y bu gwladfa Lychlynaidd yma. Mae olion y goresgynwyr hyn dros holl safleoedd mwyaf eiconig penrhyn Gŵyr. Daw enw Pen Pyrod, y pentir sarffaidd trawiadol, o’r gair Llychlynaidd am ‘ddraig’.

Meini hirion
Mae’r meini hirion wedi eu gwasgaru yma ac acw ar benrhyn Gŵyr, gan gynnal eu gwyliadwraeth unig dros yr ardal ers yr Oes Efydd. Gwyddom y gosodwyd y rhain yma gan ein cyndeidiau hynafol, ond nid oes gennym fwy o wybodaeth am yr henebion enigmatig hyn. Dywed rhai eu bod yn dynodi safleoedd cysegredig, eraill y cawsant eu defnyddio fel cyfeirbwyntiau llywio, a chred y rhai â thueddfryd cyfriniol eu bod yn nodi leylinellau pwerus. Pwy a ŵyr, efallai roedd pobl o’r Oes Efydd yn hoffi edrych arnynt?

Hanes a Threftadaeth
Mae lleoliadau Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr yn llawn hanes, o gestyll hynafol, môr-ladron a smyglwyr i'w hanes diwydiannol cyfoethog gyda gwaith copr Abertawe a threftadaeth ddiwylliannol eiconau llenyddol fel Dylan Thomas.