Tregŵyr i Benlle'r Castell – Llwybr Gŵyr (y rhan ogleddol)

Dyma’r rhan hiraf o Lwybr Gŵyr. Mae’n daith gerdded gymharol hir, sy’n fwyaf addas i gerddwyr profiadol. Mae rhan ogleddol Llwybr Gŵyr yn rhedeg o’r gogledd i’r dwyrain o Dre-gŵyr drwy Ddyffryn Lliw i gaer adfeiliedig hanesyddol Penlle’r Castell ar gopa Mynydd y Betws.

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Pellter: 15 milltir (24km).
Amser: 9 awr.
Math o daith gerdded: Unionlin. Llafurus
Byddwch yn barod: Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Gellir dilyn y llwybr cerdded hwn ar fapiau Explorer yr A.O. rhifau 164/165 (1:25,000), a map Landranger yr A.O. rhif 159 (1:50,000). Mae’r rhan hon o Lwybr Gŵyr yn croesi nifer o nentydd a gall rhai rhannau fod yn wlyb dan draed. Tua diwedd y daith gerdded, mae’n bosib y bydd cwmpawd yn ddefnyddiol iawn.

Uchafbwyntiau

  • Mae’r daith gerdded hon yn esgyn drwy ddyffryn Lliw, lle gwelir amrywiaeth o dirweddau naturiol ac o waith dyn.
  • Cadwch lygad am ‘garreg lofruddio’ Felindre wrth Gapel Nebo.
  • Yn ardal brydferth Dyffryn Lliw Uchaf, mae gennych siawns go dda o weld yr hebog tramor, cigfrain a’r barcud coch.
  • Credir mai adfeilion caer amddiffynnol o’r 13eg ganrif yw Penlle’r Castell ar Fynydd y Betws, a adeiladwyd gan un o arglwyddi’r Mers i amddiffyn gogledd Gŵyr rhag cystadleuwyr.

Y daith gerdded: Llwybr Gŵyr

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
01792 635746 neu 01792 635230
countrysideaccess@swansea.gov.uk

Dolenni ychwanegol

Swansea Bay without a car
Traveline Cymru

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi...

Lles

Mae bob tro’n bwysig i edrych ar ôl eich hunain, i fanteisio ar yr awyr agored ac i ddod…

Llwybrau Cerdded

Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy, sy’n cynnwys un o ddarnau mwyaf atyniadol Llwybr Arfordir Cymru (y cyntaf erioed i ffinio arfordir cenedl gyfan), mae gennym lwybrau sy’n addas ar gyfer pob oedran, gallu a lefel ffitrwydd.