Teithio Hwnt ac Yma
Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr
Archwilio mewn car
Mae rhwydwaith da o ffyrdd lleol yn golygu y gallwch gyrraedd yr atyniadau niferus sydd i'w cael ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yn gyflym.
Am ragor o wybodaeth ynghylch lleoedd parcio, ffïoedd parcio, safleoedd parcio a theithio etc, ewch i dudalennau Meysydd Parcio y Cyngor.
Archwilio ar y bws
Mae rhwydwaith helaeth o fysus lleol yn gwasanaethu dinas Abertawe, y Mwmbwls, Gŵyr, Castell-nedd, Port Talbot a’r Cymoedd.
I ganfod eich amserau bws lleol, ewch i Traveline Cymru neu ffoniwch 0800 464 0000.
Bydd y gwefannau canlynol yn eich helpu gyda gwybodaeth fanylach:
Pàs Archwilio Cymru
Mae’r pasys hyn yn rhoi mynediad diderfyn i chi i drenau a’r rhan fwyaf o fysus lleol ledled Cymru, gan gynnwys Bae Abertawe. Mae’r pàs hwn yn caniatáu 4 diwrnod o deithio ar drên ac 8 niwrnod o deithio ar fysus First Cymru a South Wales Transport.
Pàs Archwilio De Cymru
Mae’r pasys hyn yn rhoi mynediad diderfyn i chi i drenau a’r rhan fwyaf o fysus lleol ar draws de Cymru, gan gynnwys Bae Abertawe. Mwy o wybodaeth.
Buddion teithio a thwristiaeth gyda'ch Pasys Archwilio:
Mae gan ddeiliaid Pàs Archwilio Cymru neu Bàs Archwilio De Cymru hefyd fynediad at amrywiaeth o fuddion eraill, gan gynnwys mynediad ‘2 am bris 1’ neu fynediad am bris gostyngedig, i lawer o atyniadau twristiaeth mwyaf Cymru a hostelau ieuenctid.
Byddwch hefyd yn derbyn Arweiniad Teithio am ddim gyda’ch pàs sy’n cynnwys map teithio, gwybodaeth am fynediad i atyniadau a ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ar gyfer cynllunio’ch taith.
Gwybodaeth i Ymwelwyr
Ydych chi’n trefnu taith ond heb wybod sut i ddod o hyd i ni? Neu efallai eich bod chi am lawrlwytho arweiniad neu mae angen gwybodaeth am hygyrchedd arnoch chi. Cewch hynny a mwy yn y ddewislen ar y chwith.