Diwrnodau Allan Am Ddim

Ydych chi'n chwilio am ddiwrnod allan cost isel i'r teulu neu am gynlluniau ar ddiwrnod glawog? Mae gennym lawer o syniadau gwych ar gyfer diwrnodau allan i'r teulu sy'n addas i'ch cyllideb. Gallwch ddysgu rhywbeth newydd yn amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd Abertawe. Gallwch gael mynediad atynt am ddim ac mae ganddynt weithgareddau a gweithdai sy'n addas i bobl o bob oedran drwy'r flwyddyn. Rhaid cofio cymryd cip ar arddangosfa 'Dwlu ar y Geiriau' Canolfan Dylan Thomas, hefyd.  
 
Am hwyl awyr agored, mae gennym filltiroedd o lwybrau beicio atyniadol i'w harchwilio. Paciwch bicnic a phêl ac ewch i un o'n parciau a’n meysydd chwarae niferus. Neu ewch â'ch bwced a’ch rhaw am ddiwrnod ar un o'n traethau prydferth; does dim cost am fod yn yr awyr agored, ac mae gennym ddigon o hynny ym Mae Abertawe a phenrhyn Gŵyr! 

Arddangosfeydd

Mae Bae Abertawe'n gartref i amrywiaeth eang o orielau celf, amgueddfeydd a chanolfannau sy'n golygu, p'un a ydych yn hoff o gelfyddyd gain, cerameg, celf gyfoes neu unrhyw fath arall o gelf, bydd arddangosfa i'ch…

Traethau

Mae ein harweiniad i draethau ym Mae Abertawe'n un cynhwysfawr i'r holl draethau hyfryd sydd ar gael ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr. Gydag 20 o draethau sy'n ymestyn ar hyd 30 milltir o'r morlin, mae'n rhaid i…

Parciau a Gerddi

Parciau a Gerddi Abertawe ... Mae digonedd o barciau a gerddi yn Abertawe gyda thros 52 o ardaloedd i gyd-fynd â'i harfordir. Mannau gwyrdd tawel, gwelyau blodau prydferth a gweithgareddau difyr i deuluoedd - mae ein parciau'n…

Beicio

Paratowch i fynd ar eich beic. Mae gan Fae Abertawe ddigon o lwybrau beicio heb draffig ac mae’n rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a’r Llwybr Celtaidd.

Digwyddiadau am ddim ym Mae Abertawe

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe!