Ni fyddai Nadolig yn Abertawe’n gyflawn heb daith i Wledd y Gaeaf ar y Glannau rhwng 12 Tachwedd 2021 a 3 Ionawr 2022!
Bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau’n cael ei thrawsnewid ar gyfer cyfnod yr ŵyl 2021 gyda hoff atyniadau pawb – gan gynnwys Pentref Alpaidd newydd a gwell, mwy o atyniadau ffair a llwybr iâ newydd sbon (gyda sesiynau sglefrio 2 am bris 1 tan 16 Rhagfyr!)
Bydd hoff Bentref Alpaidd pawb yn dychwelyd eleni hefyd, gyda ardal fwy i fwynhau bwyd a diod Nadoligaidd, cymdeithasu a mwynhau’r awyrgylch.
Dyma rai pethau y gall ymwelwyr eu mwynhau yn y Bar Alpaidd: y ffordd berffaith i gymdeithasu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau mewn ardal glyd – yn ddelfrydol ar gyfer y nosweithiau oer gaeafol! Cewch weld Abertawe o’r awyr gyda’n Holwyn Arsylwi 33m medr o uchder – y ffordd orau o weld golygfeydd hudolus y ddinas. Dewch i fwynhau’n hatyniadau ffair newydd, sy’n sicr o’ch gwefreiddio!
Bydd y masnachwyr lleol yn gwerthu diod a’r bwyd mwyaf blasus yn y dref; gallwch roi cynnig ar yr atyniadau ffair traddodiadol ac amgylchynu’ch hunain yn yr awyrgylch mwyaf hudol Abertawe.
Bydd sglefrio iâ yn dychwelyd i Wledd y Gaeaf ar y Glannau eleni gyda’r llyn sglefrio iâ hynod boblogaidd a’r llwybr iâ newydd sbon sy’n ystumio o gwmpas y coed, newydd sbon ar gyfer 2021! A gall sglefrwyr ddefnyddio’r ddau yn ystod eu sesiynau sglefrio! I ddathlu agoriad Llwybr Iâ Abertawe gall ymwelwyr fwynhau sesiwn sglefrio 2 am bris 1 rhwng 1pm a 4pm dydd Llun i ddydd Iau tan 16 Rhagfyr. Bydd sesiynau sglefrio hygyrch hefyd ar gael bob dydd Mawrth.