Theatr Awyr Agored
Dewch i ddarganfod y Theatr Awyr Agored yng Nghastell Ystumllwynarth y mis Awst hwn – y cyrchfan perffaith ar gyfer noson o adloniant a diwylliant yn ystod yr haf.
Mae ein castell hanesyddol yn darparu cefndir syfrdanol ar gyfer ein perfformiadau, gan gynnig profiad hollol unigryw a bythgofiadwy.
Yr haf hwn rydym yn gyffrous i gynnal sioeau sy’n sicr o roi boddhad i gynulleidfaoedd o bob oedran. O ddramâu clasurol i gynyrchiadau cyfoes, mae gennym rywbeth i bawb.
- Pride and Prejudice – Dydd Merch 13 Awst .
- The Wind in the Willows – Dydd Iau 14 Awst
Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw ymweliad â Theatr Awyr Agored Castell Ystumllwynarth yn gyflawn heb bicnic cyn y sioe ar safle hardd ein castell. Dewch â blanced, byrbrydau a’ch hoff bobl a mwynhewch yr awyrgylch wrth i chi aros i’r sioe ddechrau. Dydyn ni methu aros i’ch croesawu i’n theatr awyr agored. Archebwch eich tocynnau nawr a pharatowch am haf o adloniant bythgofiadwy.
Tocynnau
Oedolyn – £16
Consesiwn* – £14
PTL – £8
Teulu – £44.00 (2 oedolyn a 3 blentyn)
*Dan 16 oed, dros 60 oed a myfyrwyr a chanddynt gardiau adnabod.
Bydd y rheini dan 3 oed ac yn iau
Am gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau gwych?
Digwyddiadau
Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am…
Theatr a Chelfyddydau Perfformio
Ym Mae Abertawe, mae pob noson yn gyfle i weld sioe wahanol yn rhai o leoliadau gorau'r wlad.
Comedi
Ydych chi am gael hwyl? Ni fyddai ymweliad â Bae Abertawe'n gyflawn heb fwynhau noson o gomedi.