Mae dau deulu cyfoethog, y Montagues a’r Capulets, yn rhyfela. Mae eu gelyniaeth wedi bod yn un hir a chwerw. Ond pan mae Romeo, mab y Montagues, yn mynd i barti’r Capulets heb wahoddiad ac mewn cuddwisg, mae popeth yn newid. Yn y parti mae’n cwrdd â Juliet, merch y Capulets, ac mae’r pâr yn cwympo mewn cariad gwaharddedig sy’n arwain at gyfres o ddigwyddiadau…. a diweddglo trychinebus. O gyfarfod cyfrinachol mewn gardd yng ngolau lleuad i ornest dyngedfennol dan haul chwilboeth Verona, mae Shakespeare yn archwilio pŵer parhaus cariad, dial a ffawd yn un o’i straeon fwyaf poblogaidd. Ond yr hyn sy’n wahanol am y drasiedi enwog hon yw ei bod hi’n hynod ddoniol hefyd!
Mae’r cynhyrchiad cyffrous, caboledig ac effeithiol hwn, a berfformir gan Illyria yn yr awyr agored, wedi cael ei greu gan ddefnyddio’r testun yn First Folio yn unig – yr argraffiad fwyaf awdurdodol o ddramâu Shakespeare. Perfformiodd Illyria y ddrama ardderchog hon am y tro cyntaf dros ddau ddegawd yn ôl a chawsant ganmoliaeth fawr yn fyd-eang. Yr haf hwn mae’n dychwelyd am y trydydd tro: drama angerddol, farddol a hynod gyffrous!
Hyd y perfformiad (yn fras): 140 munud (gan gynnwys egwyl 20 munud) Yn addas i bob oedran.
Tocynnau
Oedolyn – £15
Consesiwn* – £13
Plentyn – 7.50
Teulu – £42.00 (2 oedolyn a 3 blentyn)
*Dan 16 oed, dros 60 oed a myfyrwyr a chanddynt gardiau adnabod.
Bydd y rheini dan 3 oed ac yn iau
Llogi Cadair Gynfas – £2.50
Noddwr swyddogol – holidaycottages.co.uk