Marchnad Nadolig Abertawe

Marchnad Nadolig Abertawe

Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe bydd yn dychwelyd yn nhymor y gaeaf 2025.  Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yn cynnig anrhegion unigryw, danteithion i’ch temtio ac addurniadau hardd. 

Oriau Agor: TBC

Bydd llawer o wynebau cyfarwydd yn aros i’ch cyfarch ond mae rhai masnachwyr gwych newydd hefyd – y bydd rhai ohonynt yma am ychydig amser yn unig. 

young couple enjoying a drink in a german themed bar at swansea christmas market

Mae’r Bar Bafaraidd yn cynnig seddi cyfforddus dan gysgod,  siocledi poeth moethus blasus a gwin y gaeaf twym – y trît perffaith ar ôl yr holl siopa!

Caban y Carolwr yw’r canolbwynt hefyd ar gyfer rhaglen o adloniant Nadoligaidd, gan gynnwys corau ysgolion, am barhad Marchnad y Nadolig. Pan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer perfformiadau, gallwch gamu i mewn i’r olygfa ddisglair a thynnu’r llun teuluol Nadoligaidd perffaith.   

Sicrhewch eich bod yn dilyn Facebook hefyd gan y byddwn yn postio’r newyddion diweddaraf am Farchnad Nadolig Abertawe.

young couple standing in front of a wooden chalet at the swansea christmas market

Darganfyddwch Abertawe'r Nadolig hwn

Digwyddiadau Tymhorol

Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.