Gorymdeithiau Cymunedol Abertawe

Mae Siôn Corn yn teithio ar draws Abertawe'r Nadolig hwn!

Bydd Siôn Corn yn teithio ar draws y ddinas ar ei sled ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, gan ddod â hwyl yr ŵyl i Abertawe yn ystod gorymdaith gymunedol. Gwiriwch y dyddiadau isod i weld pryd y bydd Siôn Corn yn eich ardal chi!

  • 22 Tachwedd Nos Wener Treforys 
  • 25 Tachwedd Nos Lun Cilâ 
  • 28 Tachwedd Nos Iau Gorseinon 
  • 28 Tachwedd Nos Iau Y Mwmbwls 
  • 2 Rhagfyr Nos Iau Penlle’r-gaer 
  • 6 Rhagfyr Nos Wener Llangyfelach - gweithgareddau dan do yn unig.
  • 6 Rhagfyr Nos Wener Pontarddulais - Wedi'i chanslo oherwydd gwyntoedd cryfion a thywydd garw
  • 16 Rhagfyr Clydach
  • 9 Rhagfyr Nos Lun Tircoed, Pontlliw 
  • 12 Rhagfyr Nos Iau Y Trallwn, Llansamlet
  • 13 Rhagfyr Nos Wener Y Glais, Gellifedw 

Map Dilyn Siôn Corn

Methu aros i Siôn Corn gyrraedd? Diolch i ychydig o hud a lledrith o Begwn y Gogledd, gallwch ddilyn taith Siôn Corn ar hyd llwybrau'r gorymdeithiau cymunedol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod i ddilyn y map ychydig cyn i bob gorymdaith ddechrau fel y gallwch wylio taith Siôn Corn yn fyw. Cadwch lygad ar y map isod ar ddiwrnod pob gorymdaith!

Mae ein map dilyn Siôn Corn, y mae patent arno, yn defnyddio hud a lledrith Siôn Corn ond hefyd y signal 4G ar ei sled, felly efallai y bydd yn colli signal. Os nad ydych yn gallu dilyn ei daith, rhowch gynnig arall arni ar ôl ychydig funudau.  

 

Darganfyddwch Abertawe'r Nadolig hwn

Marchnad Nadolig Abertawe

Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe. Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yn…

Digwyddiadau Tymhorol

Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.