Sioe Awyr Cymru

Cynhelir Sioe Awyr Cymru unwaith eto ym Mae Abertawe 25-26 Gorffennaf 2026! Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi yno.

Dros ddeuddydd, bydd rhai o’r peilotiaid a’r arddangosiadau hedfan gorau yn y byd yn defnyddio amffitheatr naturiol Bae Abertawe i ddangos eu sgiliau trwy berfformio arddangosiadau aerobatig anhygoel. O jetiau i hofrenyddion, dyma ddau ddiwrnod na fyddwch am eu colli. Ac yn well byth – mae’r cyfan am ddim!

Nid yw’r holl gyffro’n digwydd yn yr awyr yn unig – bydd Prom Abertawe’n llawn arddangosiadau ar y ddaear, tryciau bwyd a diod blasus, profiadau rhithwirionedd, cerddorion a bandiau’n chwarae cerddoriaeth fyw, arddangosiadau, gweithgareddau i deuluoedd, reidiau a mwy!

Does dim syndod bod dros 200,000 o bobl yn dod i’r digwyddiad bob blwyddyn.

Rhagor o wybodaeth

Oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r digwyddiad hwn?

Mae cyfleoedd nawdd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn.  Mae pecynnau ar gael sy’n addas i bob cyllideb y gellir eu teilwra i ddiwallu’ch anghenion a’ch amcanion.  I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, e-bostiwch Commercial@swansea.gov.uk

 

Cefnogir Tîm Arddangos y Typhoon gan Bassetts Motor Group

Bassetts Motor Group

Cefnogir y Bwrdd Hedfan gan Faes Awyr Caerdydd

Cardiff Airport Logo

Partner Teithio - First Bus

First Bus logo