Y Mwmbwls yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Gyda’i thoreth o fwtigau, orielau, bariau a bwytai, mae’r Mwmbwls yn ardal hyfryd a phoblogaidd o Abertawe yr hoffai pob un ohonom ymweld â hi. Fodd bynnag, yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd bywyd yn y pentref hwn ar lan y môr yn wahanol iawn.
Yn ystod y 1940au roedd Abertawe yn dref ddiwydiannol fawr, a oedd yn bwysig i ymdrech y rhyfel gartref. Roedd angen amddiffyn ei dociau a’r llongau a oedd yn mynd a dod rhag ymosodiadau o’r awyr a’r môr. Felly, oherwydd ei leoliad wrth y fynedfa i’r bae, adeiladwyd amddiffynfeydd ar bentir y Mwmbwls fel rhan o system genedlaethol o amddiffynfeydd arfordirol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Y 299fed Fagnelfa Amddiffynnol Arfordirol
Roedd y 299fed Fagnelfa’n cynnwys dwy uned ar wahân, a enwyd ‘A’ a ‘B’.
Roedd gan Uned A (299fed Fagnelfa ‘A’) ar Fryn y Mwmbwls (ger lle’r ydym yn gweld yr antena mawr heddiw) ddau wn 6 modfedd y gellid eu defnyddio i saethu at longau’r gelyn. Roedd yr uned hefyd yn cynnwys ystafell reoli, gorsaf arsylwi, storfeydd pelenni a gweithdai yr oedd eu hangen i sicrhau bod y Fagnelfa’n gallu gweithredu heb gefnogaeth. Roedd oddeutu 140 o ddynion yn gweithio yng ngorsaf Magnelfa ‘A’ – roedd angen lleiafswm o 7 dyn i saethu pob gwn, a 6 dyn arall i ddarparu pelenni ar gyfer saethu parhaus.
Roedd Uned B (299fed Fagnelfa ‘B’) yn cynnwys dau chwilolau yn Mumbles Tutt (lle mae gorsaf gwylwyr y glannau a Castellamare heddiw) a dau wn a chwilolau ar ynys y goleudy. Roedd y ddau wn saethu cyflym 4.7 modfedd a’r ddau chwilolau ar ynys y goleudy’n fagnelfa archwilio, a ddefnyddiwyd i atal mynediad heb ganiatâd i Fae Abertawe drwy saethu ar draws blaen unrhyw long nad oedd yn stopio. Meddai Bill Morris, milwr a orsafwyd ar yr ynys yn ystod y rhyfel fod hwn “fel arfer yn cael yr effaith a ddymunwyd ac roeddent yn stopio’n fuan iawn i’w harchwilio”.
Roedd tua 50 o ddynion yn gweithio ym Magnelfa ‘B’ a oedd wedi’i chysylltu â’r tir mawr trwy sarn sy’n dod i’r amlwg pan fo’r llanw’n isel. Roedd y shifftiau dyletswydd yn parhau nes i’r llanw ganiatáu i’r criwiau adael a’r criw atgyfnerthu gyrraedd. Pan nad oedd y milwyr ar ddyletswydd, roeddent yn byw mewn cabanau Nissen ar yr hyn sydd bellach yn faes parcio Bae Bracelet.
Y 623ain Fagnelfa Gynnau Gwrthawyrennol
I’r gorllewin i’r 299fed Fagnelfa roedd y 623ain Fagnelfa Gynnau Gwrthawyrennol. Erbyn 1941, roedd pedwar gwn gwrthawyrennol 3.7 modfedd, a phob un wedi’i folltio i ganol safle brics crwn. Wrth i’r pedwar gwn saethu ar yr un pryd, gallent saethu pedwar rownd ar hugain mewn pedair eiliad ar hugain. Roedd Corfflu’r Magnelwyr Brenhinol yn rheoli tri o’r gynnau a’r Gwarchodlu Cartref yn gweithredu’r pedwerydd. Roedd yr amodau i’r wyth dyn a oedd yn gweithredu’r gynnau yn beryglus; heb ddigon o ymarfer a gwaith tîm da, gallai’r dynion gael eu byddaru, eu dallu neu eu tagu’n hawdd gan y sŵn a’r mygdarthau.
Ym 1943-4 adeiladwyd dau safle sgwâr ar Fryn y Mwmbwls gyda’r bwriad o gynyddu nifer y gynnau i chwech cyn glaniadau D-Day yn Normandi ym Mehefin 1944. Roedd Abertawe’n fan byrddio llongau ar gyfer y glaniadau felly roedd amddiffyniad ychwanegol rhag ymosodiadau o’r awyr yn hanfodol.
Ar ôl y rhyfel symudwyd y gynnau o’r 623ain Fagnelfa, ond daeth nifer o’r adeiladau’n gartrefi dros dro i lawer o deuluoedd a oedd wedi colli’u cartrefi o achos bomiau yn ystod y rhyfel. Heddiw gallwch weld olion y safle rheoli ac o leiaf ddau safle gynnau.