‘Remember, remember the fifth of November, gunpowder, treason, and plot…’ 

Mae Guto Ffowc a Chynllwyn y Powdwr Gwn, sydd wedi’u hanfarwoli yn yr hwiangerdd Saesneg, wedi bod yn gysylltiedig â choelcerthi ers 400 mlynedd. Fodd bynnag, mae traddodiad cynnau coelcerthi ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn mynd nôl ymhellach. 

  

Coel Certhi 

Yng Nghymru, roedd cynnau tanau hydrefol, y Coel Certhi, yn deillio’n ôl i gyfnod y Celtiaid, pan roedd yr arfer wedi’i gysylltu’n agosach â Chalan Gaeaf, math o nos galan gaeaf Gymreig sy’n hŷn o lawer ac wedi’i wreiddio yng ngŵyl baganaidd Samhain. Yn ystod y dathliadau i goffáu diwedd cynhaeaf yr hydref a dechrau’r gaeaf, byddai ein hynafiaid yn llamu drwy’r tân, yn taflu cnau i mewn iddo ac yn cnoi afalau a oedd yn hongian o linyn. 

  

Cynllwyn y Powdwr Gwn 

Ym 1605, cynllwyniodd grŵp o wrthryfelwyr Catholig i chwythu Tŷ’r Arglwyddi’n deilchion yn ystod agoriad swyddogol y senedd ar 5 Tachwedd. Methodd y cynllwyn i ladd y brenin Protestannaidd, Iago 1, a daliwyd Guto Ffowc a’i gyd-gynllwynwyr yn gynnar yn y bore. Mewn treial a gynhaliwyd ym mis Ionawr 1606, fe’u cafwyd yn euog a’u dedfrydu i farwolaeth. 

 

Yn y blynyddoedd ar ôl Cynllwyn y Powdwr Gwn, diolch i Ddeddf Cadw 5 Tachwedd 1605, roedd pobl yn coffáu’r ymgais aflwyddiannus i ladd y brenin gyda phregethau arbennig a thrwy ganu clychau eglwysi. Symudodd yr arfer o gynnau tanau hydrefol o Nos Galan Gaeaf i ffurfio’r dathliadau tân gwyllt rydym yn gyfarwydd â nhw heddiw. 

 

Tan yn ddiweddar, yn ystod yr wythnosau a arweiniai at noson tân gwyllt, byddai plant yn gwneud delw o Guto Ffowc, y “gei”, gan stwffio hen ddillad gyda phapurau newydd a rhoi mwgwd arno i greu wyneb. Cyn llosgi’r ‘gei’ ar y goelcerth, byddent wedi mynd ag ef o gwmpas eu hardal leol a chasglu arian ar gyfer y dathliadau drwy ofyn am “geiniog i’r gei”. 

  

Noson Tân Gwyllt 

Drwy’r awyr pa dwrw nawr – O, Guy Fawkes 

A goffeir ymhobman! 

Gŵr o blwc, ac ar ei blan 

Wneud uffern o San Steffan 

  

Fflechyll i’r nef yn fflachio – ar y sgwâr, 

A sgwibs yn chwyrlïo; 

Rubanau tan ar ben to, 

A glaw aur yn disgleirio. 

  

W D Williams 

  

Heddiw… 

Heddiw, tân gwyllt sy’n flaenllaw yn ein dathliadau, a chaiff llai o goelcerthi eu cynnau bob blwyddyn. Rydym wedi dod yn gyfarwydd â mynd i arddangosfeydd swyddogol gyda thân gwyllt trawiadol mewn amgylchedd diogel. 

  

Yn anffodus, ni fydd modd cynnal arddangosfeydd trefnedig eleni oherwydd pandemig Coronafeirws COVID-19. Fodd bynnag, i amddiffyn y GIG, mae’n bwysig bod pob un ohonom yn gwneud ein gorau glas i aros yn ddiogel a mwynhau noson Guto Ffowc mewn ffordd gyfrifol. 

  

Darllen mwy… 

https://www.parliament.uk/gunpowderplot/