Trên Bach Bae Abertawe

Oriau Agor 

Penwythnosau o ddydd Sadwrn 28 Mawrth i ddydd Sul 27 Medi 2026. 10am - 5pm

Bob dydd:

  • Dydd Gwener 27 Mawrth i ddydd Sul 12 Ebrill (Gwyliau'r Pasg). 10am - 5pm
  • Dydd Llun 4 Mai (Gŵyl Banc Calan Mai). 10am - 5pm
  • Dydd Llun 25 Mai i ddydd Gwener 29 Mai (gwyliau'r Sulgwyn). 10am - 5pm
  • Dydd Gwener 17 Gorffennaf i ddydd Gwener 4 Medi (gwyliau'r haf). 10am - 6pm

 

Hygyrchedd

Mae Trên Bach Bae Abertawe yn gwbl hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn. Caniateir cŵn ar y trên os ydynt ar dennyn ac o dan reolaeth. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch outdoorattractions@abertawe.gov.uk

 

Prisiau

  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch safonol – £7.50
  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch consesiwn (dan 16 oed, myfyrwyr a’r henoed) – £6.50
  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch Pasbort i Hamdden – £4.50
  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) – £18.50

Mae ein tocyn ‘mynd-fel-y-mynnoch’ yn eich caniatáu i fynd ar y trên a’i adael gynifer o weithiau ag y dymunwch drwy gydol y dydd. Prynwch eich tocyn ar y trên gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn.

Amserlen

Blackpill i Southend

Blackpill 10:30 11:30 12:30 14:00 15:00 16:00 17:00*
Llwynderw 10:35 11:35 12:35 14:05 15:05 16:05 17:05*
West Cross 10:40 11:40 12:40 14:10 15:10 16:10 17:10*
Norton 10:45 11:45 12:45 14:15 15:15 16:15 17:15*
Oystermouth 10:50 11:50 12:50 14:20 15:20 16:20 17:20*
Village Lane 10:55 11:55 12:55 14:25 15:25 16:25 17:25*
Southend 11:00 12:00 13:00 14:30 15:30 16:30 17:30*

*Gwyliau'r Haf

 

Southend i Blackpill

Southend  11:00 12:00 13:00 14:30 15:30 16:30 17:30*
Village Lane 11:05 12:05 13:05 14:35 15:35 16:35 17:35*
Oystermouth 11:10 12:10 13:10 14:40 15:40 16:40 17:40*
Norton 11:15 12:15 13:15 14:45 15:45 16:45 17:45*
West Cross 11:20 12:20 13:10 14:50 15:50 16:50 17:50*
Llwynderw 11:25 12:25 13:25 14:55 15:55 16:55 17:55*
Blackpill 11:30 12:30 13:30 15:00 16:00 17:00 18:00*

*Gwyliau'r Haf

Ydych chi'n chwilio am ragor o hwyl i'r teulu?

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe! 

Addas i Deuluoedd

Abertawe yw'r lle perffaith i gael hwyl fel teulu, boed law neu hindda. Mae amrywiaeth o amgueddfeydd ac orielau anhygoel i'w harchwilio lle cynhelir arddangosfeydd drwy'r flwyddyn gron a gweithdai drwy gydol…

Atyniadau

Dewch i ddysgu am dreftadaeth forol y ddinas – mae Abertawe’n gartref i’r  amgueddfa hynaf a’r amgueddfa fwyaf cyfoes yng Nghymru, ac mae mynediad am ddim i'r ddwy! Os ydych chi'n hoff o gelf…

Hanner Tymor

Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o ddifyrru'r rhai bach drwy gydol y gwyliau hanner tymor? Mae Croeso Bae Abertawe yma i ddangos yr holl ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrofiadau sydd ar gael i chi ar draws canol y ddinas…