Llyn Cychod a golff gwallgof Singleton

Nid yw diwrnod allan gyda’r teulu’n gyflawn heb daith i Lyn Cychod Singleton ym mharc prydferth Singleton!

Ewch ar un o’r pedalos am daith hamddenol o gwmpas y llyn cychod (a chofiwch ddweud ‘helô’ wrth yr elyrch sy’n byw yno!) cyn chwarae ar ein cwrs golff gwallgof ag 18 twll.

Manylion oriau agor

Penwythnosau o ddydd Sadwrn 5 Ebrill i ddydd Sul 28 Medi 2025. 10am - 5pm

Bob dydd:

Dydd Llun 7 Ebrill i ddydd Gwener 25 Ebrill (Gwyliau'r Pasg). 10am - 5pm

Dydd Llun 5 Mai (Gŵyl Banc Calan Mai). 10am - 5pm

Dydd Llun 26 Mai i ddydd Sul 1 Mehefin (gwyliau'r Sulgwyn). 10am - 5pm

Dydd Llun 21 Gorffennaf i ddydd Sul 31 Awst (gwyliau'r haf). 10am - 6pm

Penwythnosau'n unig tan ddydd Sul 28 Medi.

Prisiau

Cwch 4 sedd safonol £10.50
Cwch 4 sedd consesiwn £8.00
Cwch 4 sedd Pasbort i Hamdden £6.50

Golff gwallgof safonol £5.00
Golff gwallgof consesiwn £4.50
Golff gwallgof teulu £14.00
Golff gwallgof Pasbort i Hamdden £5.00

Pysgota

Mae’r llyn hefyd yn cynnwys nifer o gerpynnod, merfogioaid, ysgrytennod a chochiaid. Dim ond ar rai adegau y gellir pysgota gan fod y pedalos yn gweithredu ar y llyn. Rhaid bod gennych drwydded gwialen bysgota.

I gael rhagor o wybodaeth: outdoorattractions@swansea.gov.uk

Mae dinosoriaid wedi cyrraedd Parc Singleton!

Tyrannosaurus Rex

Y Tyrannosaurus rex, a elwir yn aml yn T. rex, oedd un o'r dinosoriaid mwyaf o ran maint a mwyaf pwerus a oedd yn bwyta cig. Roedd yn byw tua 68 i 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Cretasig hwyr. Roedd y dinosor hwn yn gallu tyfu hyd at 40 troedfedd o hyd ac roedd ganddo goesau cryf ar gyfer cerdded a rhedeg. Er bod ganddo freichiau bach, roedd ganddo ben enfawr gyda dannedd miniog a allai falu asgwrn. Mae ffosilau'n awgrymu ei fod yn ysglyfaethwr ac yn sborionwr.

Ffaith ddifyr: Roedd y T. rex yn glyfar hefyd ac roedd ganddo ymennydd ddwywaith mor fawr â rhai cigysyddion enfawr eraill.

Trichorn

Roedd y trichorn yn ddinosor mawr a oedd yn bwyta planhigion. Mae'n enwog am y tri chorn ar ei wyneb - dau uwchben y llygaid ac un ar y trwyn - a'r ffril esgyrnog ar gefn ei ben. Roedd y trichorn yn gallu tyfu hyd at 30 troedfedd ac roedd yn pwyso sawl tunnell. Mae'n bosib yr oedd yn defnyddio'i gyrn a'i ffril i amddiffyn ei hun.

Ffaith ddifyr: Roedd gan y trichorn rhwng 400 ac 800 o ddannedd yn ei enau!

Stegosawrws

Roedd y stegosawrws yn ddinosor mawr a oedd yn bwyta planhigion. Roedd yn byw tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Jwrasig hwyr. Mae'n hawdd ei adnabod drwy'r ddwy res o blatiau mawr ar hyd ei gefn a'r pigau ar ei gynffon, ac mae'n bosib ei fod wedi'u defnyddio i amddiffyn ei hun. Roedd gan y stegosawrws ben bach gydag ymennydd bach iawn o'i gymharu â'i gorff, ac mae'n debygol yr oedd yn bwydo ar blanhigion a oedd yn tyfu'n isel.

Ffaith ddifyr: Credir bod y stegosawrws yn llyncu creigiau i helpu gyda threuliant.

T-Rex
Triceratops
Stegosaurus

Ydych chi'n chwilio am ragor o hwyl i'r teulu?

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am ddigwyddiadau yn Abertawe! 

Addas i Deuluoedd

Abertawe yw'r lle perffaith i gael hwyl fel teulu, boed law neu hindda. Mae amrywiaeth o amgueddfeydd ac orielau anhygoel i'w harchwilio lle cynhelir arddangosfeydd drwy'r flwyddyn gron a gweithdai drwy gydol…

Atyniadau

Dewch i ddysgu am dreftadaeth forol y ddinas – mae Abertawe’n gartref i’r  amgueddfa hynaf a’r amgueddfa fwyaf cyfoes yng Nghymru, ac mae mynediad am ddim i'r ddwy! Os ydych chi'n hoff o gelf…

Hanner Tymor

Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o ddifyrru'r rhai bach drwy gydol y gwyliau hanner tymor? Mae Croeso Bae Abertawe yma i ddangos yr holl ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrofiadau sydd ar gael i chi ar draws canol y ddinas…