Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe
Gwybodaeth am docynnau
Gellir prynu tocynnau o hyd ar gyfer arddangosfa tân gwyllt heno. Ewch i Gât 3 wrth i chi gyrraedd San Helen. Bydd tocynnau ar werth o 5pm, bydd y prisiau’n dechrau o £3.
Disgwylir ciwiau ar gyfer tocynnau a brynir ar y noson. Ceisiwch gyrraedd yn gynnar er mwyn sicrhau nad ydych chi a’ch teulu’n colli mas ar unrhyw hwyl gerddorol cyn y brif arddangosfa am 7pm!
Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe
Bydd Arddangosfa Tân Gwyllt flynyddol Abertawe yn dod â chyffro’r West End i San Helen ar 5 Tachwedd gyda ‘Sioeau Cerdd gyda’r Hwyr’. Bydd y gatiau’n agor am 5pm a bydd yr adloniant cyn y sioe’n dechrau am 5.30pm. Bydd y brif arddangosfa tân gwyllt yn dechrau am 7pm. Bydd y brif arddangosfa’n cynnwys strafagansa tân gwyllt i gyd-fynd â chaneuon o’r sioeau cerdd, yn ogystal â fflamau a llunio patrymau â thân. Cyn hyn, bydd perfformiad wedi’i oleuo i greu’r awyrgylch angenrheidiol.
Bydd y digwyddiad eleni’n cynnwys perfformiadau o sioeau megis Beauty and the Beast, SIX a The Greatest Showman. Bydd llawer o’ch hoff gymeriadau yno hefyd, gan gynnwys:
- Glinda ac Elphaba (Wicked)
- Phantom of the Opera
- Elsa ac Olaf (Frozen)
- Tracey Turnblad (Hairspray)
- Ariel ac Ursula (The Little Mermaid)
- Mary Poppins
- Willy Wonka
- Cats
Bydd digonedd o dryciau bwyd yn darparu lluniaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich tocynnau’n gynnar i sicrhau na fyddwch yn colli’r digwyddiad gwych hwn.
Cyngor Abertawe
Am gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau gwych?
Digwyddiadau
Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am…
Digwyddiadau Tymhorol
Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.
Nadolig Abertawe
Rydym yn dwlu ar y Nadolig yn Abertawe, a dyma lle gallwch ddod o hyd i holl hwyl yr ŵyl sydd ar ddod bob blwyddyn.