Ewch am dro! Archwilio Llwybr Arfordir Cymru ym Mae Abertawe, y Mwmbwls, a Gŵyr  

Mae Llwybr Arfordir Cymru'n ymestyn yn nodedig am 870 o filltiroedd, gan ddilyn holl arfordir Cymru a chynnig golygfeydd heb eu hail, hanes cyfoethog ac ymdeimlad dwfn o gysylltu â byd natur.  
Ceir un o'r rhannau harddaf ym Mae Abertawe, gan sy’n mynd â chi drwy bentref glan môr hyfryd y Mwmbwls ac yn treiddio i anialwch anhygoel Tirwedd Genedlaethol Gŵyr - yr ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf yn y DU.  

P'un a ydych yn cynllunio taith gerdded fer, yn mynd am dro dros y penwythnos neu’n ymgymryd ag antur heicio go iawn, mae'r rhan hon o'r llwybr, sy'n 56 milltir o hyd, yn cynnig amrywiaeth o dirweddau, gweithgareddau a mannau aros sy'n berffaith i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.  

Ewch ati i wisgo eich esgidiau cerdded a gwefru eich ffôn (ar gyfer hunluniau, wrth gwrs!) – dyma sut i fwynhau'r ardal i'r eithaf!  

Wales Coast Path - Gower

Bae Abertawe: Lle mae'r ddinas yn cyrraedd y môr 

Dechreuwch eich taith ym Mae Abertawe, lle mae Llwybr Arfordir Cymru'n ymestyn ar hyd promenâd eang sy'n troi o gwmpas y bae o brysurdeb y glannau i bier y Mwmbwls. Mae'r rhan hon yn berffaith i deuluoedd, beicwyr ac unrhyw un sydd am fynd am dro hamddenol.  

Pethau i'w gweld a'u gwneud: 

  • Marina Abertawe: Ardal glan môr fywiog llawn cychod, caffis ac awyrgylch bywiog 

  • Amgueddfeydd: Dewch i amgueddfeydd hynaf a mwyaf newydd Cymru. Ceir mynediad am ddim i’r ddwy amgueddfa, sy’n cynnig dealltwriaeth ddifyr o dreftadaeth gyfoethog y ddinas 

  • Traeth Bae Abertawe: Ardal eang o dywod euraidd a dyfroedd bas sy'n berffaith ar gyfer padlo neu ymdrochi. Os ydych yn amseru eich taith yn iawn, efallai y cewch weld golygfa odidog wrth i'r haul fachlud!

Swansea Bay Drone Shot

Y Mwmbwls: Pentref atyniadol ar lan y môr

Wrth i chi ddilyn yr arfordir tua'r gorllewin, byddwch yn cyrraedd y Mwmbwls, pentref Fictoraidd atyniadol ar lan y môr llawn lleoedd ffasiynol, orielau a lleoedd gwych i fwyta. Mae Llwybr Arfordir Cymru'n ymestyn ar hyd y glannau, gan gynnig golygfeydd panoramig ar hyd Bae Abertawe a'r tu hwnt.  

Pethau i'w gweld a'u gwneud: 

  • Pier y Mwmbwls: Tirnod Fictoraidd enwog ag ardal sy'n cynnwys arcêd draddodiadol, olwyn fawr a golygfeydd dros oleudy'r Mwmbwls.  

  • Castell Ystumllwynarth: Castell Normanaidd nodedig sy'n cynnig golygfeydd ysgubol dros y bae a hanes cyfoethog sy'n dyddio yn ôl i'r 12fed ganrif 

  • Orielau: Darganfyddwch waith celf lleol, casgliadau unigryw a rhoddion Arbennig 

  • Chwaraeon dŵr: Padlo bwrdd ar eich traed neu Syrffio ar fwrdd padlo gyda hwyl  

Mumbles Pier

Gŵyr: Harddwch Naturiol Gwyllt 

Ar ôl i chi ffarwelio â phrysurdeb y Mwmbwls, mae Llwybr Arfordir Cymru'n dechrau teimlo'n fwy gwyllt a dramatig. Croeso i benrhyn Gŵyr - tir llawn clogwyni calchfaen, baeau cudd, traethau gwyntog a bryniau ysgubol. Mae'r llwybr yn fwy heriol yma, ond mae'r golygfeydd sy'n tynnu dŵr o'r dannedd a'r harddwch naturiol yn cyfiawnhau'r ymdrech. Dyma rai o'r lleoedd mwyaf atyniadol ar hyd y rhan hon o'r llwybr: 

Bae Langland  

Yn adnabyddus am ei draeth tywodlyd, ei gytiau atyniadol a'i fannau syrffio gwych. Cadwch lygad am adar y môr wrth i chi gerdded ar hyd y clogwyni atyniadol.  
 
Pethau i'w gweld a'u gwneud: 

  • Gweithgareddau ar y traeth: Torheulo, nofio ac adeiladu cestyll tywod 

A photograph of the huts at Langland Bay Beach

Bae Caswell  

Mae'r bae'n boblogaidd ymhlith pobl sy'n dwlu ar chwaraeon dŵr a theuluoedd, gan gynnwys traeth tywodlyd ac amwynderau cyfleus.  

Pethau i'w gweld a'u gwneud: 

  • Chwaraeon traeth 

  • Archwilio pyllau trai 

Caswell Bay

Bae y Tri Chlogwyn 

Mae'r bae hwn, un o'r mannau mwyaf poblogaidd ymhlith ffotograffwyr yng Nghymru, yn tynnu dŵr o'r dannedd, gan godi o'r tywod ac afon droellog sy'n arwain at y môr.  

Pethau i'w gweld a'u gwneud: 

  • Dringo creigiau: Llwybrau dringo i bobl o bob gallu, a golygfeydd godidog o'r copa 

  • Ffotograffiaeth: Yn ddelfrydol er mwyn tynnu lluniau o'r haul yn codi ac yn machlud 

Three Cliffs Bay

Bae Oxwich 

Yn adnabyddus am ei draethau tywodlyd helaeth, ei dwyni tywod a'i forfeydd heli. Mae'n boblogaidd ar gyfer nofio, chwaraeon dŵr a gwylio adar.  
 Pethau i'w gweld a'u gwneud: 

  • Chwaraeon dŵr: Caiacio, padlfyrddio, reidiau ar offer chwyddadwy a hwylfyrddio 

  • Teithio ar gwch: Dewch i archwilio'r arfordir atyniadol ar gwch a chymryd cip ar y bywyd morol lleol 

  • Sauna: Dewch i fwynhau sauna sy'n cael ei wresogi drwy dân coed ar y traeth 

  • Castell Oxwich: Adfeilion plasty o oes y Tuduriaid sy'n cynnig golygfeydd dros y bae  

Two people paddleboarding in Gower

Bae Porth Einon 

Traeth poblogaidd sy'n addas i deuluoedd. Mae ganddo lannau tywodlyd diogel ac mae’n enwog am smyglwyr. Mae'n boblogaidd am chwaraeon dŵr ac mae'n cynnig mynediad hawdd a chyfleusterau cyfagos.  

Pethau i'w gweld a'u gwneud: 

  • Pysgota: Dewch i ddal draenogiaid môr a physgod lleol eraill 

  • Blas ar Jin: Dewch i gael blas ar fathau gwahanol o jin crefft arobryn mewn gardd jin  

Building remains in Port Eynon

Bae Rhosili a Thraeth Llangynydd 

Mae Bae Rhosili'n aml yn un o'r traethau gorau yn y DU (a hyd yn oed y byd!), gan gynnig golygfeydd sy'n tynnu dŵr o'r dannedd, clogwyni anferth a lleoliad eiconig Pen Pyrod. Gerllaw, mae traeth Llangynydd yn boblogaidd iawn ymhlith syrffwyr.  

 

Pethau i'w gweld a'u gwneud: 

  • Gwylio bywyd gwyllt: Cadwch olwg am ddolffiniaid, llamhidyddion, morloi ac adar y môr 

  • Arfordiro: Dewch i ddringo, neidio a nofio ar hyd clogwyni dramatig Gŵyr 

  • Hedfan Barcutiaid: mae’r amodau gwyntog naturiol yn ei wneud yn berffaith ar gyfer barcutiaid 

A couple walking in Gower

Gogledd Gŵyr

Mae gogledd Gŵyr yn encilfa heddychlon â thirweddau atyniadol, pentrefi penigamp a morydau mawreddog. Mae'r llwybrau ysgafn yn berffaith er mwyn mynd am dro hamddenol a gwylio adar.  
 

Pethau i'w gweld a'u gwneud: 

  • Castell Weble: Adfeilion plasty o'r 14eg ganrif, sy'n cynnig golygfeydd panoramig dros forfeydd heli Llanrhidian a Moryd Llwchwr. 

  • Twyni Whiteford: Traeth anghysbell sydd heb ei ddifetha. Gallwch gerdded i oleudy Whiteford pan fydd y llanw ar drai

Whiteford Lighthouse

Awgrymiadau Gwych  


Diogelwch  

  • Esgidiau: Mae esgidiau ymarfer yn addas o Abertawe i'r Mwmbwls; mae esgidiau cerdded yn fwy addas ym mhenrhyn Gŵyr 

  • Arhoswch ar y llwybr: Mae rhai rhannau'n agos at ymylon clogwyni – byddwch yn ofalus wrth gerdded!  

  • Cŵn: Yn ddelfrydol er mwyn mynd â'r ci am dro, ond cadwch olwg am glogwyni, bywyd gwyllt, da byw a chyfyngiadau tymhorol ar draethau  

  • Llanw: Dim ond os oes achubwr bywyd ar y traeth y dylid nofio – gall llanwau cryf a cherhyntau terfol fod yn beryglus. Gwiriwch amserau'r llanw cyn cerdded ym Mhen Pyrod a Bae y Tri Chlogwyn.  

  • Gweithgareddau: Defnyddiwch weithredwyr achrededig ar gyfer chwaraeon dŵr a gweithgareddau antur 

 

Teithio neu aros 

  • Cludiant: Cysylltiadau bysus gwych o Fae Abertawe i'r Mwmbwls – cynlluniwch gyda Traveline Cymru 

  • Llety: Dewiswch o lety gwely a brecwast clyd ar arfordir y Mwmbwls, bwthyn gwledig ym mhenrhyn Gŵyr neu westy ffasiynol yng nghanol dinas Abertawe 

Wales Coast Path sign

Cerdded, Caru, Rhannu

Mae Llwybr Arfordir Cymru rhwng Bae Abertawe a phenrhyn Gŵyr yn fwy na llwybr – dyma antur sy'n aros amdanoch chi!  

 

Cofiwch am Ŵyl Gerdded Gŵyr o 6 i 14 Medi – dyma ddigwyddiad naw niwrnod sy'n berffaith os ydych yn dwlu ar fyd natur a hanes, gan gynnig mwy na 30 o deithiau cerdded tywysedig.  

Mae'r teithiau cerdded poblogaidd yn cynnwys:  

  • Bae Rhosili a Phen Pyrod 

  • Bae y Tri Chlogwyn a Chastell Pennard 

  • Y Mwmbwls i Fae Langland 

Cofiwch ein tagio yn eich lluniau: @BaeAbertawe #LleHapus @LlwybrArfordirCymru 

 

Dolenni defnyddiol:  
Arweiniad ynghylch Llwybr Arfordir Gŵyr (pdf y gellir ei lawrlwytho) 
Llwybr Arfordir Cymru