Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â Hwb Cerddoriaeth Abertawe, Menter Iaith Abertawe a lleoliadau ar draws canol dinas Abertawe i gyflwyno Nosweithiau Cerdd Croeso, tari noson o gerddoriaeth Gymreig fyw! Beth allai fod yn well!
6pm – 8pm: Cân i Gymru Launch gyda Morgan Elwy, Mali Hâf, Lily Maya, Sgilti a Lauren Moore yn Arena Abertawe
6pm – 11pm: Islet, Angel Hotel, Eädyth a Kid Mercury yn The Bunkhouse
7.30pm: Storm Heaven yn Taliesin
8pm: Cân i Gymru yn Arena Abertawe
6.30 pm – 10pm: Brigyn, Danielle Lewis a Cwtsh yn Tŷ Tawe
7pm – 11pm: : Sage Todz a Luke RV yn Elysium
Mae Islet yn fand i fandiau, band sy’n gwneud i bobl eisiau cychwyn band. Maent wedi bod yn chwarae i reolau ei hunan ers ffurfio yng Nghaerdydd yn 2009, ble cafodd y pedwar aelod eu tynnu at ei gilydd trwy awydd cyffredin i ddathlu bywyd trwy wneud sŵn. Ers hynny, maent wedi rhyddhau tri albwm a llond llaw o EPs ar label ei hunan Shape a hefyd ar Fire Records. Yn 2023, ail-ymunodd John ‘JT’ Thomas â’r tîm gwr a gwraig Emma a Mark Daman Thomas a ffrind Alex Williams. Roedd JT yn un o sylfaenwyr y band, ac ar ôl fod yn absennol ar gyfer y record “Eyelet” yn 2020, dychwelodd ar y drymiau gan osod rolau cyson i’r band a arferai cyfnewid offerynnau yn y gorffennol. Beth sy’n parhau trwy gydol eu cerddoriaeth yw egni dwys, rhythmau sy’n gyrru gyda newidiadau annisgwyl, geiriau dyfeisgar a chwareus, lleisiau sy’n trawsnewid o fod yn ysgafn i fod yn wyllt.
Mae Angel Hotel yn fand indie-roc amgen o Gaerdydd, wedi ei ffurfio gan Siôn Russell Jones yn 2020. Wedi eu hysbrydoli gan nostalgia, power-pop, a thraciau sain eich hoff b-movies – disgwyliwch gitarau jangly, synths sy’n canu, penillion breuddwydiol, a chytganau dewr.
BRIGYN yw y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts i ardal Eryri, Gogledd Cymru. Ers rhyddhau eu CD cyntaf yn 2004, mae eu cerddoriaeth melodig wedi cael el chwarae yn gyson ar donfeddi radio ac ar y teledu yma yng Nghymru i’r Celtic Connections, Glasgow. Fe enillodd Brigyn wobr am y gân orau yng Ngŵyl Ban Geltaidd 2011 ac maent yn enwog am eu fersiwn unigryw o “Hallelujah” gan Leonard Cohen a nifer fawr o glasuron Cymreag cyfoes.
Ffurfiwyd Cwtsh yn 2019, gan ryddhau eu halbwm cyntaf ‘Gyda’n Gilydd’ yn 2021. Cyrhaeddodd yr albwm rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod 2021. Mae’r grŵp yn dod â genres cerddorol amrywiol ynghyd, gyda’r cyfan yn asio’n hyfryd er mwyn creu sŵn a chaneuon sy’n siŵr o apelio at gynulleidfa eang ar hyd a lled y wlad.
Dagrau Tân yw Elian Davies, Steffan Lloyd, Josh Lewis a Rhydian Carnie, band ifanc o’r Barri sy’n cyfansoddi a chwarae cymysgedd o roc melodig araf ac amgen yn bennaf yn Gymraeg ond hefyd yn Saesneg. Cawsant eu disgrifio yn broffesiynol a thalentog y tu hwnt i’w blynyddoedd.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r band wedi perfformio mewn nifer o gigs lleol megis Gwyl Fach y Fro, Parti Ponty, Tafwyl, Aduniad Teulu Anthem Cymru, Digwyddiad Dydd Miwsig Cymru yn CCAF, Gŵyl Y Glannau a Gŵyl Fwyd y Barri a Clwb y Bont. Maent hefyd wedi perfformio nifer o weithiau yng Nghlwb Ifor, mwyaf diweddar gyda chyfres o gigs ieuenctid yn perfformio gyda bandiau ifanc eraill. Hefyd maent wedi bod yn rhan o brosiect Sound Progression lle maent wedi perfformio mewn nifer o nosweithiau hybu cerddorion ifanc yn Clwb Ifor, Yr Eglwys Norwyaidd, Y Robin Hood ar Tramshed yn gŵyl ‘Immersed’ lle cawsant eu hadolygiad cyntaf.
Mae Danielle Lewis yn artist pop breuddwydiol o Orllewin Cymru gyda llais santaidd o fyd arall. Daw Lewis i’r amlwg gyda’i halbwm syfrdanol ‘Dreaming in Slow Motion’. Cyrhaeddodd yr albwm y rhestr fer am Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2022. Mae’n cynnig 10 cân o dynerwch a phresenoldeb etheraidd sy’n arloesi rhwng breuddwyd a realiti.
Mae Eadyth, gynt yn act unigol, bellach wedi datblygu'n ddeuawd ddeinamig gyda’r gitarydd o ogledd Cymru, Rhodri Foxhall. Barod i ddatgelu eu pennod gerddorol newydd, mae “Amser”, sengl gyntaf y ddau gyda'i gilydd, yn plethu cerddoriaeth progressive alt-metal gyda soul.
Wedi’i leoli yn Abertawe, mae Kid Mercury yn brosiect ystafell wely / roc amgen sy’n uno elfennau o roc indie a jazz. Ffurfiwyd y ddeuawd gan y canwr a’r gitarydd Fraser Gully a’r baswr Freddy Hathaway ar ôl eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol ac yn ystod y pandemig. Maent yn chwarae cyfuniad unigryw o roc indie ar gyfer cefnogwyr o Her’s, Unknown Mortal Orchestra, a Crumb.
Yn hanu o’r Coed Duon, De Cymru, mae Lily Maya yn gantores R&B llawn enaid sy’n trwytho ei threftadaeth Gymreig a Charibïaidd trwy berfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn 2023 rhyddhawyd ei thrac cyntaf, ‘Rhedeg Mas o Amser’, a gafodd ei gynnwys ar restr chwarae BBC Radio Cymru. Mae hi wedi perfformio mewn gwyliau a lleoliadau ar draws De Cymru fel Sain Ffagan, Immersed Festival a Hub Festival. Yn 2024, mae hi eisoes wedi cael ei rhestru fel artist i’w gwylio ar BBC Radio Cymru a chafodd ei dewis gan y Forte Project, cynllun a gefnogir gan PRS, i gefnogi ei gyrfa fel artist.
Ffurfiwyd Taran yn haf 2023 i berfformio yn Tafwyl fel rhan o gynllun ‘Yn Cyflwyno’. Ers hynny, mae’r band roc ifanc o Gaerdydd wedi cefnogi Bwncath a chwarae nifer o gigs lleol. Bydd eu sengl gyntaf, “Pan Ddaw’r Nos”, yn cael ei rhyddhau ar 23 Chwefror ar label Recordiau JigCal.
Yn hanu o’r bumed ddinas fwyaf glawog yn y DU, mae The Bad Electric o Abertawe yn cyfuno cymysgedd o pync, indie, amgen ac electro gydag alawon bachog, ethos DIY craidd caled, a synnwyr digrifiwch gwyrdroëdig. Ar wahân i’w sioeau byw egnïol a chorysau cofiadwy, mae The Bad Electric hefyd yn adnabyddus am eu siacedi llwyfan oren trawiadol.
Y Bad Electric yw Jonny Randell (Gitâr / Llais), Matt Williams (Gitâr / Synth / Llais), Zach Williams (Bass / Llais) a Tom Young (Drymiau). Mae’r aelodau i gyd yn hoelion wyth y sîn gerddorol yn Abertawe ac wedi chwarae / yn chwarae ar hyn o bryd mewn bandiau fel Suns of Thunder, Sigiriya, HWDU, Estuary Blacks a Pale Bastard.