fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Ymunwch â’r ditectifs gwylio adar, y Twitchers, i archwilio’r adar prydferth a’r anifeiliaid rhyfeddol sydd yn Canolfan Dylan Thomas yng ngwyliau hanner tymor fis Chwefror.

Mae Antur Amgueddfa’r Twitchers gan Kids in Museums a Walker Books yn dathlu cyhoeddi Feather, sef y pedwerydd llyfr yng nghyfres The Twitchers gan yr awdur hynod boblogaidd M. G. Leonard. Dewch o hyd i’r adar a gwnewch eich addewid eich hun i ddiogelu bywyd gwyllt. Cwblhewch y daflen weithgareddau i dderbyn eich sticer Twitchers!

Gwnewch lun o’ch aderyn neu anifail partner eich hun a rhannwch eich llun ar  Twitter/X neu Instagram gyda’r hashnod #TwitchersMuseumAdventure a’r tag @kidsinmuseums i gael cyfle i ennill un o bum bwndel. Gallwch weld rhagor ar wefan Kids in Museums: https://bit.ly/TwitchersMuseumAdventure.

Ar agor dydd Mercher – dydd Sul, 10am – 4.30pm. Mynediad am ddim.

 

Dyddiad
10-25 CHWE
Lleoliad
Dylan Thomas Centre
Ffôn
01792463980
E-bost
dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
Visit website