fbpx
Joio'r Gwanwyn yn Abertawe!
Rhagor o wybodaeth

Dathlu Pencampwyr Chwaraeon 2022

Rydym yn falch o gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2022.

Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydyn ni’n ei hadnabod ac yn dwlu arni. P’un ai’r gwirfoddolwr neu’r hyfforddwr sy’n rhoi awr ar ôl awr o’i amser yn y cefndir, y tîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus trwy’r flwyddyn neu’r chwaraewr sydd wedi cyflawni’r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe’n ddinas sy’n llawn pencampwyr chwaraeon.

Rydym yn falch o allu dathlu’n pencampwyr am y tro cyntaf ers 2020. Mae ein hathletwyr wedi gweithio’n galed iawn eleni ac rydym yn edrych ymlaen at gydnabod a nodi eu cyflawniadau a’u cyfraniadau gwych i chwaraeon yn ystod Gwobrau Chwaraeon Abertawe.

Cynhelir seremoni Gwobrau Chwaraeon Abertawe o 7pm nos Iau 30 Mawrth 2023 yn Neuadd Brangwyn mewn cydweithrediad â Freedom Leisure. Prynu Tocynnau. Mae hefyd ostyngiad o 25% oddi ar archebion grŵp o 10 tocyn neu fwy!

Ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe, bydd 13 o wobrau ar draws y categorïau canlynol:

Rhagor o wybodaeth

Noddwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2022

Swansea Council

mewn cydweithrediad a Freedom Leisure

 

 

Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn a noddir gan Arvato CRM Solutions

Ni yw Arvato. Rydym yn dylunio, yn darparu ac yn gwahaniaethu gwasanaethau cwsmeriaid a gwasanaethau swyddfeydd cefn ar ran rhai o’r sefydliadau uchaf eu parch yn y byd. Mae ein partneriaethau llwyddiannus, hir dymor yn cynnwys Adran Drafnidiaeth, Cyngor Bwrdeistref Chesterfield, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, tri chynhyrchwr cerbydau rhyngwladol a masnachwr stryd fawr byd-eang.

Agorodd ein safle yn Abertawe yn 2013, gan ddarparu gwasanaethau a rennir i amrywiaeth o gleientiaid llywodraeth ganolog. Rydym bellach yn cyflogi dros 200 o bobl, rydym wedi sefydlu rhaglen brentisiaeth ac rydym yn cefnogi mentrau elusennol a chymunedol yn yr ardal leol. Yn rhyngwladol, rydym yn rhan o rwydwaith caffael o ffynonellau allanol proses busnes Arvato a Majorel sy’n cyflogi mwy na 66,000 o bobl, ar draws 40 o wledydd, sy’n siarad dros 35 o ieithoedd i filoedd o gwsmeriaid – bob dydd graddio.

Gwirfoddolwr y Flwyddyn noddir gan John Pye Auctions

John Pye Auctions yw Tŷ Arwerthu manwerthu mwyaf y DU. Gwerthir miloedd o eitemau bob wythnos, o gelfi, dillad ac offer electronig i nwyddau gwyn a mwy. Mae ein safle ym Mhort Talbot yn cynnig cyfle i chi weld pob eitem bob dydd Llun o 8am i 12pm. Ewch i www.johnpye.co.uk i gael gwybod mwy. Edrychwch, cynigiwch, prynwch, mae’n hawdd!

Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn noddir gan Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe

Fel cyfleuster cymunedol ac o’r radd flaenaf, mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe’n ymrwymedig i gefnogi chwaraeon, o lawr gwlad i’r lefel elît. Rydym yn cydweithio â nifer o gyrff llywodraethu, clybiau a sefydliadau partner i ddatblygu gweithgareddau dŵr yn ein rhanbarth. Rydym yn falch iawn o’n partneriaeth â Chyngor Abertawe ac rydym wrth ein bodd ein bod yn cefnogi Gwobrau Chwaraeon Abertawe unwaith eto ac yn dathlu campau chwaraeon 2022.

Tîm Ysgol y Flwyddyn noddir gan Coleg Gwyr Abertawe

Mae’n bleser gan Goleg Gŵyr Abertawe noddi gwobr Tîm Ysgolion y Flwyddyn. Mae gan y coleg hanes cadarn o gynhyrchu sêr chwaraeon eithriadol, gan gynnwys Leigh Halfpenny, Jazz Carlin, Justin Tipuric, Nicky Smith a Danny Williams, gyda llawer o’i fyfyrwyr o’r gorffennol a’r presennol yn cynrychioli’u sir yn y gamp o’u dewis wrth astudio yn y coleg. Mae’n darparu un o’r amrywiaethau ehangaf o academïau chwaraeon yn y wlad ac mae ganddo dros 300 o fyfyrwyr sy’n cynrychioli’r coleg yn rheolaidd. Mae rhaglen yr Academi Chwaraeon yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd chwaraeon gan gynnwys chwaraeon tîm ac unigol. Mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu mewn amgylchedd cefnogol wrth barhau i ddatblygu ar eu llwybr academaidd a galwedigaethol. Mae gan y coleg raglen bwrsariaeth a mentora i athletwyr profiadol, sy’n cynnwys elfennau ariannol a chyfannol.

Chwaraewr ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan First Cymru

Mae’n anrhydedd i First Cymru noddi gwobr Chwaraewr ag Anabledd y flwyddyn. Rydym yn falch o fod yn sefydliad cynhwysol sy’n croesawu unigolrwydd ac yn derbyn gwahaniaethau. Mae ein staff, bron 700 ohonynt, yn gweithio 363 diwrnod y flwyddyn i gysylltu trefi, pentrefi a dinasoedd ar draws de a gorllewin Cymru.

Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn noddir gan Chwaraeon Cymru

Rydym am weld cenedl iachach a mwy heini. Rydym am i bob person ifanc gael dechrau da mewn bywyd fel y gall pob un fynd ymlaen i fwynhau oes o chwaraeon. Rydym hefyd yn ymrwymedig i roi’r gefnogaeth angenrheidiol i’n hathletwyr mwyaf addawol fel y gallant gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Chwaraewr Iau ag Anabledd y Flwyddyn noddir gan Evolve Physiotherapy

Mae Lee Watkins, perchennog Evolve Physiotheraohy yn Abertawe yn Ffisiotherapydd Cyhyrysgerbydol a Chwaraeon a chanddo dros 15 mlynedd o brofiad ym maes rygbi proffesiynol (Gwyddelod Llundain a’r Bristol Bears), pêl-droed (Dinas Abertawe), ffisiotherapi ymarfer preifat, y lluoedd arfog ac ysbytai’r GIG/preifat.  Enillodd y profiad hwn wrth weithio yn y DU, yr Almaen, Awstralia a Dubai.

Gwobr Annog Abertawe Actif noddir gan EYST Cymru

Clwb neu Dîm Iau’r Flwyddyn noddir gan Peter Lynn and Partners

Chwaraewraig Iau’r Flwyddyn noddir gan Edenstone Group
Edenstone group logo

Mae datblygiad arobryn Pentre’r Ardd Parc Ceirw yn Nhreforys yn cynnig dewis eang o gartrefi teuluol a byngalos o’i frandiau tai Edenstone Homes a Bluebell Homes. Mae’r gymuned newydd sy’n datblygu’n cynnwys llu o gyfleusterau dethol gan gynnwys hwb cymunedol i alluogi preswylwyr i fwynhau ffordd iachach o fyw.


Chwaraewr y Flwyddyn noddir gan McDonald’s

McDonald's M

Mae McDonald’s unwaith eto’n falch o fod yn un o noddwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe i gydnabod mabolgampwyr neilltuol a’u cyflawniadau. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu.

Chwaraewr Iau’r Flwyddyn noddir gan Yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Abertawe

Swansea Uni logo

Mae’r Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng nghampws y bae, ac mae’n cynnwys labordai o’r radd flaenaf. Rydym yn canolbwyntio ar addysgu o ansawdd uchel (yn y 13eg safle yn y DU) ac ymchwil o’r radd flaenaf. Mae staff yn gwneud ymchwil arloesol sy’n amddisgyblaethol ei natur ac yn canolbwyntio ar chwaraeon drwy gydol oes.Mae gennym gysylltiadau cryf â phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn noddir gan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

UWTSD logo

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn darparu ystod o gyrsiau sy’n ymwneud â Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored. Mae’r portffolio cyffrous hwn yn darparu cyfuniad o brofiadau ymarferol a damcaniaethol i fyfyrwyr mewn meysydd fel Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Gwyddoniaeth, Addysg Gorfforol, Hyfforddi, Maeth, Yr Awyr Agored ac Antur.

Dyddiad
30 MAW 2023
Lleoliad
Brangwyn Hall
Archebwch docynnau