Mae cwmni fflamenco arobryn Daniel Martinez yn cyflwyno ei 2il gynhyrchiad hirddisgwyliedig Andalucia, cynhyrchiad fflamenco trawiadol i gyfeiliant cerddorfa siambr.
Mae’r gyngerdd arbennig hon yn gynrychiolaeth gerddorol o’r 8 rhanbarth sy’n rhan o gymuned ymreolaethol Andalucia yn ne Sbaen, man geni fflamenco; Cordoba, Sevilla, Cadiz, Malaga, Jaen, Granada, Huelva ac Almeria. Mae gan bob rhanbarth ei ddehongliad unigryw ei hun ar yr arddulliau amrywiol niferus sy’n rhan o fflamenco a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno’n hyfryd i’r gynulleidfa drwy gitâr Daniel, gyda chyfeiliant amrywiaeth o gerddorion fflamenco, cantorion, ensemble cerddorfa siambr a dawns fflamenco.
Unigryw, blaengar, gwefreiddiol, a lle mae harddwch syfrdanol cerddoriaeth glasurol yn cwrdd ag angerdd a thân fflamenco. Profiad fflamenco na ddylid ei golli!