fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Os edrychwch chi’n ofalus ar y ddaear ger y West Cross Inn, fe welwch blac coffa glas i’r ddiwydianwraig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Amy Dillwyn.

Ganed Amy Dillwyn ym 1845, i un o deuluoedd mwyaf blaenllaw Abertawe, ond nid oedd ei bywyd yn un hawdd. Pan fu ei thad farw, etifeddodd fusnes y teulu a oedd mewn dyled mawr, sef Gwaith Speltio Llansamlet.

Gwrthododd Amy fynd yn fethdalwr, ac wynebodd yr her o reoli’r gwaith ei hunan, rhywbeth anarferol iawn i fenyw, gan ddefnyddio’r elw a fyddai fel arfer wedi mynd iddi hi i dalu credydwyr. Gwnaeth yn dda iawn, gyda’r gwaith yn dod yn un o’r cynhyrchwyr sinc mwyaf ym Mhrydain.

Roedd Amy Dillwyn yn garcus o’i cheiniogau gan fyw bywyd syml yn Nhŷ Glyn gerllaw. Daeth yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth, gan ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol, ac yn awdur cyhoeddedig. Bu fawr ym 1935 a chafodd ei llwch ei wasgaru ar fedd ei rhieni a’i brawd yn Eglwys St Paul yn Sgeti.