Mae ein trên bach y bae sydd â 72 o seddi, yn teithio ar hyd Prom Abertawe rhwng Lido Blackpill a Gerddi Southend yn y Mwmbwls, a gall teithwyr fwynhau golygfeydd gwych o Fae Abertawe ar hyd y daith.
Felly p’un a ydych am eistedd a mwynhau’r olygfa mewn steil neu gael taith hamddenol ar ôl diwrnod o hwyl yn yr haul, ewch ar Drên Bach Bae Abertawe!
Bydd y Trên Bwganod Nos Galan Gaeaf wedi’i addurno’n frawychus ddydd Llun 30 a dydd Mawrth 31 Hydref.
Amserlen
Mae 5 arhosfan: Blackpill, y parc sglefrio, West Cross, Norton a Sgwâr Ystumllwynarth (maes parcio’r Llaethdy)
BLACKPILL I FAES PARCIO’R LLAETHDY – YN YSTOD YR HAF
SAFLE | Gwyliau’r haf | ||||||
Blackpill | 10.30am | 11.30am | 12.30pm | 2.00pm | 3.00pm | 4.00pm | 5.00pm |
Parc Sglefrio | 10.35am | 11.35am | 12.35pm | 2.05pm | 3.05pm | 4.05pm | 5.05pm |
West Cross | 10.40am | 11.40am | 12.40pm | 2.10pm | 3.10pm | 4.10pm | 5.10pm |
Norton | 10.45am | 11.45am | 12.45pm | 2.15pm | 3.15pm | 4.15pm | 5.15pm |
Ystumllwynarth (Maes parcio’r Llaethdy) | 11.00am | 12.00pm | 1:00pm | 2.30pm | 3.30pm | 4.30pm | 5.30pm |
Ystumllwynarth (maes parcio’r Llaethdy) i Blackpill
STOP | Summer Holidays | ||||||
Oystermouth (Dairy car park) | 11am | 12pm | 1pm | 2.30pm | 3.30pm | 4.30pm | 5.30pm |
Norton | 11.05am | 12.05pm | 1.05pm | 2.35pm | 3.35pm | 4.35pm | 5.35pm |
West Cross | 11.10am | 12.10pm | 1.10pm | 2.40pm | 3.40pm | 4.40pm | 5.40pm |
Mumbles Skatepark | 11.15am | 12.15pm | 1.15pm | 2.45pm | 3.45pm | 4.45pm | 5.45pm |
Blackpill | 11.30am | 12.30pm | 1.30pm | 3pm | 4pm | 5.pm | 6pm |
Sylwer: Mae Trên Bach Bae Abertawe yn dibynnu ar y tywydd, ac ni fydd yn teithio os bydd yr amodau’n wael.
Prisiau
Mae ein tocyn ‘mynd-fel-y-mynnoch’ yn eich caniatáu i fynd ar y trên a’i adael gynifer o weithiau ag y dymunwch drwy gydol y dydd.
Prynwch eich tocyn ar y trên gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn.
Hygyrchedd
Mae Trên Bach Bae Abertawe yn gwbl hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn. Caniateir cŵn ar y trên os ydynt ar dennyn ac o dan reolaeth. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch outdoorattractions@abertawe.gov.uk