Mae Blackpill Lido, sydd ar lwybr Prom Abertawe yn ardal Blackpill sy’n edrych dros fae godidog Abertawe yn cynnwys pwll padlo a nodweddion dŵr gwych yn ogystal ag ardal chwarae i blant, carreg ddringo a chyfleusterau picnic.
A gorau oll – gallwch ymweld â Lido Blackpill am ddim!
Does dim angen i chi boeni os ydych chi’n anghofio’ch cadair chwaith, gallwch logi cadeiriau cynfas yn Lido Blackpill
Y gost yw £2 y gadair am y diwrnod a bydd angen i chi ddychwelyd rheini erbyn 5pm
Bydd Lido Blackpill yn cael ardal chwarae newydd sbon ar gyfer tymor 2022, sy’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd. Cadwch lygad am y diweddaraf!
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 07816 230475.