fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Hanes Tŷ Cilâ

Mae’n 2021, ac ar y brif ffordd lle mae Sgeti’n cwrdd â Chilâ, heibio’r orsaf betrol ar Gower Road, saif stad o dai.

Yr hyn nad ydych yn ymwybodol ohono efallai wrth fynd ar eich troeon dyddiol ar hyd y ffordd hon yw mai dyma lle safai plasty ar un adeg, sef 365 Gower Road. Cyfeiriwyd ato’n aml fel Cartref Plant Amddifad – ei enw oedd Tŷ Cilâ.

Adeiladwyd y plasty mewn cefn gwlad agored ym 1878 – 80 gan Morgan Bransby Williams, a oedd yn beiriannydd sifil. Ar ôl cwblhau llawer o brosiectau rheilffordd yn Rwsia, ymddeolodd yn 45 oed a dychwelodd i dde Cymru lle daeth yn gyfarwyddwr Swansea Bank, a ddaeth yn Metropolitan Bank of England and Wales yn Wind Street yn ddiweddarach.

Roedd gwesteion Tŷ Cilâ ym 1896 yn cynnwys yr Ysgrifennydd Cartref, Herbert Asquith, a fyddai’n dod yn Brif Weinidog. Bu farw Morgan Bransby Williams yn 89 oed ym 1914, ac fe’i claddwyd ym mynwent eglwys Penmaen.

Ar ôl i’w weddw farw ym 1922, daeth y gwaith o gynnal Tŷ Cilâ yn anodd yn dilyn colledion a threthiant adeg y rhyfel.

Fe’i gosodwyd am ychydig flynyddoedd cyn ei werthu ym 1926 i Gartref i Ferched Amddifad Abertawe. Cynorthwywyd y pryniad drwy gymynrodd gan Roger Beck, dyngarwr a phendefig dur a fu farw ym 1923.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd safle Rhagofalon Cyrch Awyr yno, ac ar ôl i’r ymladd ddod i ben, cymerodd Cartref Cenedlaethol y Plant gyfrifoldeb am Dŷ Cilâ, gyda’r bechgyn yn ymuno â’r 21 merch yn raddol i wneud grŵp teulu o ddeg o blant yr un.

Caeodd y Cartref i Blant ym 1985 a defnyddiwyd y tŷ ar gyfer gofal seibiant i blant ag anghenion ychwanegol. Yn y pen draw, daeth yn aneconomaidd i’w gynnal ac fe’i rhoddwyd ar werth. Yn 2003, dymchwelwyd y plasty a chodwyd tai Stephenson Road, Millwood Gardens a St Nicholas Court.