fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy
BLOG | May 28, 2020

Ydych chi wedi clywed am Forwyr yr Horn Abertawe?

Ymunwch â Jo yn ei hymgais i ddarganfod rhagor am ddewrder rhyfeddol morwyr lleol a’u bywydau ar y môr, morwyr a fu’n hwylio rhai o’r moroedd mwyaf peryglus yn y byd i gludo mwyn copr yn ôl i’n dinas gan helpu i wneud Abertawe yn deyrnas gopr y byd y chwyldro diwydiannol.

Beth yw Morwr yr Horn?

Morwr yr Horn yw morwr sydd wedi hwylio o gwmpas yr Horn, un o’r llwybrau môr mwyaf peryglus yn y byd, ym mhen deheuol yr Ariannin a Chile.

Mae hanes yn cofio dewrder morwyr Abertawe a aeth ‘rownd yr Horn’ i ddod â mwyn copr o Chile i’w fwyndoddi yng ngweithiau copr Abertawe.

Pwy oedd Morwyryr Horn Abertawe?

Roedd y rhan fwyaf o forwyr Abertawe a aeth o gwmpas yr horn yn Gymry, ac yn tueddu i fod yn ddynion o gefn gwlad. Gallai dynion a oedd yn byw ac yn gweithio yn niwydiannau’r dref, fel mwyndoddi copr, ennill cyflog da o’i chymharu â’r hyn a oedd yn cael ei gynnig gan fywyd ar y môr. Felly, nid oedd cofrestru i ymuno â chriw un o’r llongau yn gynnig deniadol.

Fodd bynnag, yng nghefn gwlad, fel penrhyn Gŵyr, doedd byth digon o dir neu waith i bawb, ac roedd hyn yn gwneud bywyd ar y môr yn atyniadol i ddynion o gefn gwlad. Roedd Morwyr yr Horn Abertawe yn ddynion uchel eu parch ymhlith y morwyr gorau oll. Roedd y dynion yn fedrus ac yn weithgar, ac roedd Morwyr yr Horn Abertawe yn eirda am gymeriad morwyr.

Pa longau oedden nhw’n eu hwylio?

Roedd Morwyr yr Horn Abertawe yn hwylio mewn llongau mwyn copr, fel y ‘Zeta’. Roedden nhw’n llongau trwm a swmpus a adeiladwyd ar gyfer cryfder ac nid cyflymder, gan gludo glo o Abertawe i Dde America a chludo mwyn copr yn ôl ar gyfer gweithiau mwyndoddi copr Abertawe.

Er bod llawer o longau wedi’u pweru gan ager, byddai’n rhaid stopio sawl gwaith ar y daith i ail-lenwi â glo oherwydd y pellterau enfawr ar draws Môr Iwerydd. Felly, gosodwyd mastiau a hwyliau i fframwaith haearn ar y llongau, er mwyn defnyddio pŵer y gwynt.

Sut oedd bywyd ar fwrdd y llong?

Roedd y llongau wedi’u dylunio a’u hadeiladu i fod yn geffylau gwaith y môr gan weithredu dan yr amodau mwyaf garw, ac felly roedd bywyd ar fwrdd y llongau hyn yn anodd. Roedd trigfannau’r criw yn dywyll ac yn oer ac roedd y deiet dyddiol yn cynnwys dim mwy na phwys o gig a pheint o ddŵr. Roedd bob amser perygl y byddai’r glo a gludwyd gan y llongau yn mynd ar dân, ac roedd bygythiad o ymosodiadau gan forfilod.

Beth mae’r pethau roedden nhw’n berchen arnyn nhw’n ei ddweud wrthym?

Mae Jo a’i ffrindiau yn Amgueddfa Abertawe wedi bod yn edrych ar rai o’r pethau a fu yn nwylo morwyr Abertawe ar un adeg, ac sydd bellach yn rhan o gasgliad yr amgueddfa, sy’n cynnig cipolwg ar fywyd Morwr yr Horn ar y môr.

‘Polly’

Parot o’r Amazon yw ‘Polly’, y daethpwyd â hi yn ôl i’r wlad hon yn fyw ac yn iach o Frasil ym 1912 neu 1913; roedd morwr lleol o’r enw Tom Eynon wedi’i rhoi fel anrheg egsotig i’w chwaer, Freda.

Pan bu farw ‘Polly’ ym 1921, cafodd ei chadw a’i mowntio gan James Steer, gŵr a oedd yn masnachu o 8 Arcêd Alexandra yn Abertawe, ac a alwodd ei hun yn ‘Fasnachwr Ŷd a Hadau a Thacsidermydd Adar ac Anifeiliaid’. Mae gan yr amgueddfa hefyd anfoneb a luniwyd gan Mr. Steer ar gyfer y gwasanaethau tacsidermi a ddarparodd, â’r dderbynneb a roddodd yn gyfnewid am flaendal a roddodd teulu Eynon ar gyfer ei waith.

Dau bicolo

Thomas Webborn (1850-1936), Morwr yr Horn, oedd yn berchen ar y picolo hwn, a byddai’n ei chwarae ar ei fordeithiau i Dde America. Roedd cerddoriaeth yn rhan bwysig o fywydau’r dynion dewr hyn.

“Mae mwy nag un hen Forwr yr Horn, wrth hel atgofion am ei ddyddiau ar arfordir gorllewinol De America, yn disgrifio sut yr oedd llongau’n arfer angori ym maeau porthladdoedd ar hyd yr arfordir, ac ambell waith gyda’r hwyr, pan fyddai’r gwaith o lwytho a dadlwytho wedi’i orffen, deuai synau rhyw gorws swynol ar draws y môr o longau copr Cymru a oedd wedi’u hangori yno.”

‘The Swansea Copper Barques and Cape Horners’ gan Joanna Greenlaw

Chwe thocyn masnachu

Yn debyg i dwristiaid modern, roedd morwyr y 19eg ganrif yn hoffi cofroddion o’u teithiau. Daethpwyd â’r tocynnau masnach (fichas) hyn yn ôl i Abertawe yn ôl pob tebyg gan Forwyr yr Horn fel cofroddion o’u teithiau hir a llafurus.

Pluen, a addurnwyd gan Gapten Will Nelson

Peintiwyd y bluen wen hon gan un o forwyr yr Horn o’r enw Capten ‘Will’ Nelson, a oedd yn byw yn Nheras Malvern, Abertawe.

The feather follows a nineteenth century tradition amongst mariners who painted them as mementoes for their families and loved-ones during long sea voyages. The artist and captain who painted the feather sailed frequently around Cape Horn, shipping copper back from Latin America for the smelting industry in Swansea.

Cafodd ei phaentio ym 1898 a’i rhoi i Amgueddfa Abertawe ym 1996. Mae’r bluen yn dilyn traddodiad o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymhlith morwyr a’u paentiodd fel cofroddion i’w teuluoedd a’u hanwyliaid yn ystod mordeithiau hir. Roedd yr artist a’r capten a baentiodd y bluen yn hwylio’n aml o amgylch yr Horn, gan gludo copr yn ôl o America Ladin ar gyfer y diwydiant mwyndoddi yn Abertawe.

Dannedd siarc

Roedd criwiau llongau mwyn copr Abertawe yn wynebu nifer o beryglon ar y môr. Gallai eu llwythi o lo fynd ar dân ac roedd bob amser fygythiad o ymosodiadau gan y creaduriaid gwyllt a oedd yn byw yn y dŵr. Daeth un o forwyr dewr yr Horn â dannedd y siarc hwn yn ôl i Abertawe.

Allwch chi hwylio i fuddugoliaeth yn ein cwis am fywyd Morwr yr Horn ar y môr?

Profwch eich gwybodaeth am fywyd Morwr yr Horn ar y môr a dewch o hyd i’r llythyren sydd ar goll i helpu Jo i orffen ein helfa drysor hanner tymor. Atebwch bob cwestiwn i ddatgelu’r llythyren gudd.