Mae’r maen hir ar Mansel Road, Bôn-y-maen sy’n 1.3 m o uchder, a’i sylfaen yn 1.m x 0.5m, yn un y mae llawer ohonom wedi mynd heibio iddi ond heb sylweddoli beth ydyw.
Mae’r gofeb dywodfaen sy’n gogwyddo ychydig i’r dde yn dyddio o’r Oes Efydd, ac felly tua 4000 o flynyddoedd oed – mae’n anodd credu hynny on’d yw e!
Mae’r maen o bwys cenedlaethol ac yn dal i fod o ddiddordeb archaeolegol pwysig. Mae cryn siawns hefyd y gallai fod claddedigaethau cyn-hanesyddol yn yr amgylchedd lleol, ac mae’n bosib y cynhaliwyd seremonïau defodol yma hefyd.
Mae meini hirion yn aml yn rhan o glwstwr mwy o gofebau.