fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Yn negawdau cynnar yr 19eg ganrif, roedd ardal yr Ardal Forol bresennol yn gartref i nifer o gymeriadau diddorol. Un o’r cymeriadau mwyaf eithafol oedd ‘y Barwn Spolasco’, crachfeddyg a oedd yn byw mewn tŷ ar Adelaide Street, lle mae gwesty Morgans heddiw.

Er iddo aros yn Abertawe am gyfnod byr yn unig rhwng 1838 ac 1845, roedd y Barwn Spolasco’n gymeriad adnabyddus ar draws ardal ddiwydiannol de Cymru.

Credwn mai John Smith oedd enw geni’r Barwn Spolasco, ac fe’i ganed ym Manceinion, neu’n agos ati, yn ystod y 1790au. Yn wreiddiol, ymrwymodd i fod yn fferyllydd, ond am ryw reswm, ni lwyddodd i gymhwyso a daeth yn grachfeddyg hollol gymwys (gyda’i gymwysterau meddygol ac addysgol ffug) yn ne Iwerddon ym 1836. Fodd bynnag, roedd ei berfformiad fel crachfeddyg yn llwgr iawn erbyn hyn, ac roedd wedi sefydlu patrwm llygredig ei fywyd.

Bu Spolasco’n ymarfer yn ddadleuol yn ne Iwerddon (lle cafodd ei guro o leiaf ddwywaith gan Wyddelod crac) yn ystod 1836-1838. Daeth ei arhosiad yno i ben yn ninas Corc, yn dilyn digwyddiad hunanddinistriol a oedd wedi ei orfodi i geisio ffoi o’r wlad. Ceisiodd y Barwn Spolasco ffoi o Iwerddon gyda phlentyn yr oedd yn honni ei fod yn fab iddo, morwyn, coets, chwe cheffyl a dau gi.

Fel y digwyddodd, aeth Spolasco ar y Killarney gyda’i bagiau llaw a’i fab yn unig, gan honni nad oedd digon o le am weddill ei bethau. Ar noson 19 Ionawr 1838 yng nghanol storm eira enfawr ar y môr, trochwyd boeleri’r Killarney ac nid oeddent yn gweithio mwyach. Llithrodd y Killarney’n araf ar greigiau Renny ac, yn eironig, suddodd mewn golwg y lan. O’r 46 o deithwyr ac aelodau’r criw a oedd ar y llong, llwyddodd 13 ohonynt yn unig i gyrraedd y creigiau hwnnw a suddodd y llong, cyn i’r môr garw dorri’r llong 500 tunnell yn ddarnau mân. Fel un o’r goroeswyr lwcus, bu’n rhaid i Spolasco dreulio dwy noson gyfan a bron tridiau’n dal ymlaen i sbigylau miniog y creigiau cyn iddo gael ei achub.

Yn ystod ei gyfnod o adfer yn ardal Corc (lle’r oedd bellach yn cael ei ystyried yn enwog ar ôl goroesi’r llongddrylliad), defnyddiodd Spolasco weddill ei gyfnod adfer i ysgrifennu cyfrif ymddyrchafedig o’i hanes, o’r enw “The Narrative of the Wreck of the Killarney Steamer”. Roedd y llyfr yn cynnwys portread o Spolasco a phrint dramatig o sefyllfa beryglus y goroeswyr ar y creigiau.

Nid yw wedi bod yn bosib olrhain gweithgareddau’r Barwn Spolasco o fis Mawrth 1838 i’r cyfnod lle gyrhaeddodd Abertawe’n ddiweddarach y flwyddyn honno ym mis Hydref. Meddai llygad dyst o’r cyfnod lle gyrhaeddodd Spolasco Abertawe,

“His advent was well advertised by the dissemination of small handbills and leaflets for weeks, nay months, and when he arrived the whole district was in commotion thousands of people lined the route, but after all the grandeur was not so extensive and, savoured of the ridiculous; yet, it was in the nature of a Royal progress.

A large, elegant yellow carriage with certainly four, if not six horses, in splendid trappings, with postillions in brilliant colours and cockades, a black manservant in gorgeous livery and shoulder knot yellow silk breeches and white stockings, sitting alone in solemn dignity immovable on the centre of the box seat, the “Baron” inside, bowing left and right, midst the roaring swell of cheering that beset him on all hands”.

Erbyn mis Chwefror 1839, roedd wedi ymgartrefu ar Adelaide Street mewn tŷ ar ddiwedd teras bach lle safai tri thŷ tref Georgaidd a adeiladwyd ym 1802. Cyn adeiladu Doc y De (y dechreuwyd ei adeiladu ym 1852), cyfeiriwyd at yr ardal hon o Abertawe fel y Twyni, ac roedd yn ardal barchus iawn lle’r oedd nifer o adeiladau Georgaidd tebyg.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n hysbysu ei waith yn gyson ym mhapur newydd y Cambrian, newyddlen orau’r wlad ar y pryd. Os oeddech yn llythrennog ac yn byw yn ardal ddiwylliannol de Cymru yn ystod 1838-1840, byddech yn sicr o fod yn ymwybodol o’r Barwn Spolasco o Abertawe.

Roedd Spolasco’n benderfynol ac yn lliwgar, fel mae’r cyfrif hwn o ddigwyddiad ym 1839 yn dangos. Gofynnwyd i’r Barwn gau mynediad i gefn ei eiddo, ar ôl iddo ei greu er mwyn cael mynediad i stabl:

“He taught his horse a nice docile, well-bred animal to walk up his doorsteps, several in number, in Adelaide Street, and to pass along the hall and passage just three feet wide, and so to the stables behind. The floor of the passage being of wood, the heavy tramp of the hoofs was plainly heard after the door was closed. Poor horse! I often thought him a jolly sight too good for his proprietor…”

Ym 1839 daeth merch i weld Spolasco yn un o’i feddygfeydd teithiol ym Mhen-y-bont. Roedd y ferch eisoes yn dioddef salwch terfynol pan werthodd Spolasco ei ‘foddion’ iddi yn nhafarn y Wyndham Arms Inn. Er mai moddion gweithio oedd diodydd hud y Barwn mewn realiti, roedd cyflwr y ferch mor wael y byddai unrhyw beth yr oedd yn ei llyncu wedi cyflymu ei marwolaeth. Mewn ymchwiliad dilynol gan grwner, daeth dyfarniad o ddynladdiad. Arestiwyd Spolasco yng Nghaerdydd ac fe’i daliwyd yn y carchar yno. Hysbysebwyd yr achos llys canlyniadol yn dda, ac roedd cynulleidfaoedd yn y llys bob dydd. Cafodd y Barwn Spolasco ei ryddfarnu ar y sail nad oedd unrhyw gorff meddygol neu gyfreithiol yn gallu profi’n ddiamwys ac y tu hwnt i unrhyw amheuaeth fod y ‘moddion’ wedi cyflymu ei marwolaeth.

Roedd y flwyddyn 1839 yn enwedig o wael i Spolasco, ar ôl iddo fod mewn trafferth gyda’r gyfraith unwaith eto, yn fuan ar ôl i bethau ddechrau tawelu iddo yn dilyn yr achos dynladdiad. Ar 5 Rhagfyr 1839, cafodd ei arestio unwaith eto, a’r tro hwn bu’r heddlu’n chwilio drwy ei dŷ ar Adelaide Street hefyd. Cafodd ei gyhuddo o ffugio ar 25 cyfrif! Pan ymddangosodd yn y llys ar 25 Gorffennaf 1840, roedd y cyhoedd yn cydymdeimlo’n fawr ag ef, ac wrth glywed y cyhuddiadau yn ei erbyn, dechreuodd y dorf yn yr oriel gyhoeddus lafarganu’r canlynol:

“In times of yore ere chivalry went by Knight against Knight his manhood to try. Now under fearful odds the champion mounts To one poor Baron five and twenty counts”

Fe’i cyhuddwyd o roi ei stamp ei hun, drwy dwyll, ar y moddion siop yr oedd yn ei werthu yn lle stamp y Frenhines Victoria, gan gadw unrhyw refeniw i’w hun yn hytrach na’i roi i’r goron. Fe’i rhyddfarnwyd unwaith eto, a chroesawyd hyn gan bawb. Roedd y dorf yn ei gymeradwyo’n uchel wrth iddo adael y llys. Fodd bynnag, datgelwyd yn y llys nad oedd yn Farwn neu’n feddyg, ond yn Sais.

Yn lle ceisio cael llai o sylw er mwyn osgoi gelynion pwerus, ymgeisiodd Spolasco i wneud y gwrthwyneb. Llwyddodd i sicrhau fod ei enw yng ngenau pawb trwy gyfres o styntiau cyhoeddusrwydd a hysbysebion niferus yn y wasg yn ystod 1839 ac 1840.

Yn gynnar ym 1839, penderfynodd nodi ei fod wedi goroesi llongddrylliad Killarney  drwy rostio ych a’i roi i bobl anghenus a thlawd Abertawe.

Ar achlysur arall, aeth ati i fathu tocyn pres a oedd yn dangos penddelw o’i hun ac arysgrif (5000 cases and cures) Gellid disgrifio’r tocyn yn well fel ‘tocyn tafarn’, a rhoddwyd y rhain i unigolion yn yr un modd ag y rhoddir talebau disgownt i bobl heddiw.

Mae’n ymddangos mai oes aur y Barwn Spolasco o ran ei boblogrwydd oedd 1840 – dros y pedair blynedd nesaf lleihaodd nifer ei hysbysebion mewn papurau newydd yn raddol, ac ym mis Mawrth 1845 daethant i ben yn llwyr. Yn ystod y blynyddoedd hynny, roedd naill ai wedi synhwyro nad oedd mor boblogaidd ag o’r blaen neu’n teimlo’n ddigon hyderus i roi cynnig ar syniadau newydd ar gyfer ei frand penodol o grachfeddygaeth. Fodd bynnag, mae’n ymddangos y bu’n treulio llai o amser yn Abertawe nag o’r blaen, ac roedd si ar led ei fod wedi camymddwyn am y pedwerydd tro yn Llundain. Beth bynnag, rhoddodd ei sylwad olaf yn y Cambrian ar 19 Mawrth 1845 ac ni glywyd ohono eto.

Gallwn ond ddyfalu’r hyn a ddigwyddodd i Spolasco rhwng 1845 a’i ymddangosiad nesaf yn Efrog Newydd yn y 1840au hwyr. Adroddwyd bod pobl wedi ei weld yn Llundain, mewn amgylchiadau tlawd wrth iddo yrru o gwmpas un o’r parciau mewn trap bach ag un ceffyl. Er hynny, roedd yn berchen ar ei dŷ tref ar Adelaide Street tan 1854, ond mae’r cyfrifiad ym 1851 yn dangos nad oedd yn byw yno mwyach. Felly, mae’n rhaid ei fod wedi ffoi i Lundain rhwng 1845 ac 1849, ac yna wedi symud i America.

Yn America, parhaodd i hysbysebu ei hun fel crachfeddyg a chafodd ddylanwad mawr yno i ddechrau, fel y gwnaeth yn ne Cymru ac yn Iwerddon. Nid oes llawer o wybodaeth am ei brofiadau yn America ar gael, ar wahân i rai cyfrifon gan lygad-dystion a welodd Spolasco ar strydoedd Efrog Newydd:

“You will see that he is got up to attract attention. That hat with it’s curled-up rim is made on a special block for himself. That wig and moustache and those eyebrows are of a preternatural black, which, contrasting with the face painted with Cotard’s best red, make him look somewhat like those ferocious individuals that pop out of little boxes, imperious with carmine and horsehair”.

Roedd Spolasco’n byw bywyd moethus ar ddechrau ei antur yng Ngogledd America, lle’r oedd yn rhentu swît dda mewn gwesty i ddechrau. Ond ar ôl hynny, symudodd i lety llai deniadol a llai o faint bob tro. Bu farw’r Barwn Doctor Spolasco o gancr y stumog ym mis Mehefin 1858, mewn ystafelloedd rhentu ar Broadway. Gadawodd ewyllys gwerth llai na $5,000 i ddau o’i blant, y mae’n ymddangos nad oeddent yn bodoli, ac mae’n gorwedd mewn bedd y gellir ei weld o hyd mewn mynwent ddinod yn Efrog Newydd.