fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae’n werth ymweld â Gerddi Clun dim ond am y golygfeydd ysblennydd dros y bae, a hynny cyn i ni ddod at y casgliadau enwog o Rododendronau, Pieris ac Enkianthus.

Cafodd y gerddi eu sefydlu’n wreiddiol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan brynodd William Graham Vivian Gastell Clun ym 1860 gan wario arian a threulio amser helaeth i’w ddatblygu er mwyn dangos ei gyfoeth.

Mae’r gerddi fel y maent heddiw yn dangos dylanwad mawr Algernon Vivian, a oedd yn cael ei alw’n admiral. Roedd ef wedi noddi sawl alldaith dramor i gasglu planhigion prin.

Ond nid yw cynifer o bobl â hynny sy’n mwynhau Gerddi Clun yn gwybod mai olion Coedwig Normanaidd Clun yw’r coetir derw hynafol. Allwch chi ddychmygu sut roedd hi bryd hynny?

Darganfod rhagor….