fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Gweithgareddau a hwyl gyda thîm Joio Bae Abertawe i'ch diddanu gartref

Yn ystod y cyfnod ansicr hwn lle mae pawb yn gwneud ei ran i helpu i amddiffyn y GIG a’n hanwyliaid drwy aros gartref, rydym wedi llunio adran #gartref newydd i geisio’ch diddanu a’ch cadw’n brysur. Mae gennym syniadau, gweithgareddau ac erthyglau diddorol gwych o archifau Bae Abertawe gan lu o leoliadau a thimau a arweinir gan Gyngor Abertawe.

Dewch i archwilio Bae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr o’ch cartref eich hun

Wrth i chi aros gartref a chadw’n ddiogel, rydym yn gwneud ein gorau glas i gyflwyno’r gorau i chi o Fae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr. Ewch ar daith rithwir drwy archwilio’n lluniau 360 gradd gwych, ewch am dro drwy hanes drwy gael cip ar ein horiel ddigwyddiadau sy’n cynnwys rhai o ddigwyddiadau mawr Bae Abertawe neu gallwch cael cip ar ein lluniau godidog o benrhyn Gŵyr.